Y Gwynt | |
Yr wybrwynt, helynt hylaw, | |
Agwrdd drwst a gerdda draw, | |
Gŵr eres wyd garw ei sain, | |
4 | Drud byd heb droed heb adain. |
Uthr yw mor eres y'th roed | |
O bantri wybr heb untroed, | |
A buaned y rhedy | |
8 | Yr awr hon dros y fron fry. |
Dywaid ym, diwyd emyn, | |
Dy hynt, di ogleddwynt glyn. | |
Hydoedd y byd a hedy, | |
12 | Hin y fron, bydd heno fry, |
Och ŵr, a dos Uwch Aeron | |
Yn glaer deg, yn eglur dôn. | |
Nac aro di, nac eiriach, | |
16 | Nac ofna er Bwa Bach, |
Cyhuddgwyn wenwyn weini. | |
Caeth yw'r wlad a'i maeth i mi. | |
Nythod ddwyn, cyd nithud ddail | |
20 | Ni'th dditia neb, ni'th etail |
Na llu rhugl, na llaw rhaglaw, | |
Na llafn glas na llif na glaw. | |
Ni'th ladd mab mam, gam gymwyll, | |
24 | Ni'th lysg tân, ni'th lesga twyll. |
Ni boddy, neu'th rybuddiwyd, | |
Nid ei ynglŷn, diongl wyd. | |
Nid rhaid march buan danad, | |
28 | Neu bont ar aber, na bad. |
Ni'th ddeil swyddog na theulu | |
I'th ddydd, nithydd blaenwydd blu. | |
Ni'th wŷl drem, noethwal dramawr, | |
32 | Neu'th glyw mil, nyth y glaw mawr. |
Rhad Duw wyd ar hyd daear, | |
Rhuad blin doriad blaen dâr, | |
Noter wybr natur ebrwydd, | |
36 | Neitiwr gwiw dros nawtir gŵydd, |
Sych natur, creadur craff, | |
Seirniawg wybr, siwrnai gobraff, | |
Saethydd ar froydd eiry fry, | |
40 | Seithug eisingrug songry', |
Drycin yn ymefin môr, | |
Drythyllfab ar draethellfor, | |
Hyawdr awdl heod ydwyd, | |
44 | Hëwr, dyludwr dail wyd, |
Hyrddwr, breiniol chwarddwr bryn, | |
Hwylbrenwyllt heli bronwyn. | |
Gwae fi pan roddais i serch | |
48 | Gobrudd ar Forfudd, f'eurferch. |
Rhiain a'm gwnaeth yn gaethwlad, | |
Rhed fry rhod a thŷ ei thad. | |
Cur y ddôr, par egori | |
52 | Cyn y dydd i'm cennad i, |
A chais ffordd ati, o chaid, | |
A chân lais fy uchenaid. | |
Deuy o'r sygnau diwael, | |
56 | Dywaid hyn i'm diwyd hael: |
Er hyd yn y byd y bwyf, | |
Corodyn cywir ydwyf. | |
Ys gwae fy wyneb hebddi, | |
60 | Os gwir nad anghywir hi. |
Dos fry, ti a wely wen, | |
Dos obry, dewis wybren. | |
Dos at Forfudd felenllwyd, | |
64 | Debre'n iach, da wybren wyd. |