Hafan
Dylan Foster Evans gyda Sara Elin Roberts:
'Myn Pedr, ni wn pwy ydwyd', ar drywydd Dafydd ap Gwilym
Ar hyd y degawdau, cyffroes calon sawl ymchwilydd gobeithlon wrth iddo
weld cyfeiriad at 'david ap gwilim' mewn dogfen o'r bedwaredd ganrif ar ddeg,
ond er bod ambell enghraifft o'r enw hwnnw i'w chael tua'r cyfnod cywir, hyd
yn hyn ni ddadleuodd neb fod gennym gofnod swyddogol sy'n enwi'r bardd o
Geredigion. Yn
y traethawd hwn dilynir trywydd yr hyn sy'n hysbys am Ddafydd ap Gwilym.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r ysgrif