Hafan

'Byd Sain Dafydd ap Gwilym'

Fel rhan o’r gynhadledd cynhaliwyd cyngerdd yng Nghanolfan Dylan Thomas ar nos Fercher 4 Ebrill 2007 gyda Dr Sally Harper o Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Cymru Bangor yn cyflwyno datganiadau o rai o’r cerddi gan Dr Meredydd Evans i gyfeiliant y delynores Bethan Bryn, a pherfformiadau o rai o geinciau telyn llawysgrif Robert ap Huw gan Bill Taylor. Cefnogwyd y cyngerdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.


1. Yr Wylan (cerdd 45) i gyfeiliant Gosteg Dafydd Athro (Llsgr Robert ap Huw, t. 15)

2. Englynion i Ifor Hael (cerdd 12) i gyfeiliant Cwlwm Cytgerdd ar Makmwn Hir (Llsgr Robert ap Huw, t. 23)

3. Moliant Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf (cerdd 7) i gyfeiliant Gosteg Ieuan ap y Gof (Llsgr Robert ap Huw, t. 20)

4. Y Gainc (cerdd 91, llinellau 1-8) i gyfeiliant Cân y Pastwn

5. Caniad Pibau Morfudd (Llsgr Robert ap Huw, t. 90)

6. Caniad Ystafell (Llsgr Robert ap Huw, t. 38)

7. Cainc Ruffudd ab Adda ap Dafydd (Llsgr Robert ap Huw, t. 57)

8. Gosteg Dafydd Athro (Llsgr Robert ap Huw, t. 15)

9. Caniad San Silin (Llsgr Robert ap Huw, t. 69)