i Ddwynwen santes i geisio genthi wneythur lateiaeth rhyngtho ef a
morfydd a nota fod y prydyddion kymbreic yn cymeryd dwynwen yn ddwywes ne
santes cariad a serchowgrwydd fal i galwai y poetts Venus
1 Dwynwen deigr arien degwch
2 da gwyr o gor fflamgwyr fflwch
3 dy ddelw aur diddoluriaw
4 digion druain ddynion draw
5 dyn a wilio gloywdro glan
6 yn dy gor Indeg eirian
7 nid oes glefyd na bryd brwyn
8 a el ynddo o Landdwyn
9 dy laesblaid yw dy lwysblwyf
10 dolurus ofalus wyf
11 y fron hon o hoed gordderch
12 y sydd yn unchwydd o serch
13 [132r] hir wayw o sail gofailiaint
14 herwydd i gwn hwn yw haint
15 o ni chaf o byddaf byw
16 forfydd llyna oferfyw
17 gwna fi yn iach weddyssach wawd
18 om anwchder am nychdawd
19 cymysc lateiddrwydd flwyddyn
20 a rhadau duw rhod a dyn
21 nid rhaid ddelw euraid ddilyth
22 yt ofn pechawd fethlgnawd fyth
23 nid adwna da i dangnef
24 duw a wnaeth nid ai o nef
25 nith wyl mursen y leni
26 yn husting yn ing a ni
27 ni rydd eiddig ddig ddygnbwyll
28 warffon i ti wyry i phwyll
29 tyn oth obr taw ni thybir
30 wrthyd wyry gymhlegyd hir
31 o Landdwyn dir gynired
32 i gwm y gro gem o gred
33 duw nith omeddawdd hawdd hedd
34 dawn iaith aml dyn nith ommedd
35 di ammau weddiau waith
36 duw ath eilw du i thalaith
37 del-lid duw dy letywr
38 del i gof dwylaw i gwr
39 traws oedd y mab ai treisiai
40 tra ddel im ol trwy ddail mai
41 Dwynwen pe parud unwaith
42 dan wydd mai a hirddydd maith
43 dawn ei bardd da wen i bych
44 Dwynwen ni oeddyd anwych
45 dangos oth radau downgoeth
46 nad wyd fursen ddwynwen ddoeth
47 er dy radlawn ath ddawnbwys
48 o benyd y byd ai bwys
49 [132v] er y crefydd ffydd ffyddryw
50 a wnaethost tra fuost fyw
51 er dy eirian leianaeth
52 a gwyrfdawd y coethgnawd caeth
53 er enaid im rhaid yr hawg
54 Brychan yrth breichiau nerthawg
55 eiriol er dy greuol gred
56 ar Em wyry roi ymwared
dafydd ap Gwilym