Testun Golygedig: 49 - Y Ceiliog Bronfraith

Y Ceiliog Bronfraith

Y mae pob Mai difeioed,
Ar flaenau canghennau coed,
Cantor hydr, ar gaer wydr gyll,
4 Esgud dan wyrddion esgyll,
Ceiliog, teg reg rhag organ,
Bronfraith drwy gyfraith a gân.

   Pregethwr maith pob ieithoedd,
8 Pendefig ar goedwig oedd.
Sieri fydd ym medwydd Mai
Saith ugeiniaith a ganai,
Iustus gwiw ar flaen gwiail,
12 Ystiwart llys dyrys dail,
Athro maith fy nghyweithas,
Ieithydd ar frig planwydd plas,
Cywirwas ar friglas fry,
16 Cydymaith mewn coed ymy,
Ceiniad yw goreuryw gân
A gynnull pwyll ac anian.

   [ ]wy, Creirwy Cred,
20 Am y fun â mi fyned.
Hyder, a balch ehedeg,
A wnaeth â dewiniaeth deg,
O blas i blas drwy draserch,
24 O lwyn i lwyn er mwyn merch,
Dysg annerch, a disgynnu
Lle'r oedd y fun, llariaidd fu.
Dwedud yn deg fy neges,
28 Diwyd fydd pen-llywydd lles.
Dangos a wnaeth, cydfaeth cant,
Y gwir yn ei lythr gwarant.
Darlleodd ymadrodd mydr,
32 Deg lwyswawd, o'i dŷ glaswydr.
Gelwis yn faith gyfreithiol
Arnaf ddechrau'r haf o'r rhol.

    Collais, ni ddamunais ddig,
36 Daered rym, dirwy dremyg.
Cyd collwn, gwn, o gynnydd,
Dirwyon dan wyrddion wŷdd,
Ni chyll traserch merch i mi,
40 Cain nerthoedd, na'm cwyn wrthi.
O bydd cymen y gennad,
O brudd, ef a gais ei brad.

    Duw a wnêl (gêl ei gofeg)
44 Erof fi a Dewi deg
Amod rhwydd ('y myd rhyddoeth)
Am y gennad (geinwad goeth):
Ei adael ef a'i lef lwys,
48 Brydydd serch, i baradwys,
Ynad, mygr ganheiliad Mai,
Enw gwiwddoeth, yno y gweddai.