Y Ceiliog Bronfraith
Y mae bob Mai, [sy'n cadw] oed yn ddi-fai,
ar flaenau canghennau coed,
gantor grymus, ar gaer loyw o goed cyll,
4 deheuig dan esgyll gwyrddion,
ceiliog bronfraith, anrheg teg rhagorach nag organ,
sy'n canu yn ôl y gyfraith.
Pregethwr hirfaith ym mhob iaith,
8 pendefig ar goedwig ydoedd.
Siryf ydyw yng nghoed bedw Mai
a ganai mewn saith ugain o ieithoedd,
ynad gwiw ar flaen gwiail,
12 stiward llys dyrys dail,
athro maith fy nghwmni,
ieithydd ar frig coed planedig plas,
llanc ffyddlon ar [bren] briglas fry,
16 cydymaith mewn coed imi,
datgeiniad cân o'r math gorau ydyw,
sy'n cyfuno doethineb a chynneddf.
[ ] Creirwy gwledydd Cred,
20 fynd rhyngof a'r eneth.
Ymddwyn yn llawn hyder a hedfan yn falch
a wnaeth â dewiniaeth deg,
o le i le oherwydd traserch,
24 o lwyn i lwyn er mwyn merch
(annerch dysgedig), a disgyn
lle'r oedd yr eneth, llednais fu.
Dywedodd yn deg fy neges,
28 ffyddlon fydd pen-llywydd lles.
Dangos a wnaeth, cyfaill cant,
y gwir yn ei lythyr gwarant.
Darllenodd araith ar fydr,
32 cân hyfryd a theg, o'i dy o wydr glas.
Galwodd yn faith gyfreithiol
arnaf ddechrau'r haf o'r rhol.
Collais, ni chwenychais lid,
36 dyled fawr, ddirwy [am] ddirmyg.
Er imi golli, fe wn, oherwydd llwyddiant,
ddirwyon dan goed gleision,
ni chollir gennyf draserch merch,
40 hardd ei grymoedd, na'm cyhuddiad yn ei herbyn.
Os bydd y negesydd yn fedrus,
o ddifri, fe geisia ei thwyllo.
Gwneled Duw (merch gudd ei bwriad)
44 er fy mwyn i a Dewi deg
gytundeb hael (f'anwylyd ddoeth iawn)
ynghylch y negesydd (un goeth, hardd ei gwadiad):
ei adael ef a'i lef hyfryd,
48 brydydd serch, i mewn i baradwys,
ynad, noddwr gwych mis Mai,
enwog am ei ddoethineb gwiw, yno y gweddai iddo fod.