GDG 123
Er mai tri chopi o'r cywydd hwn sydd, a'i fod yn ddienw yn un o'r rheini (Ll 118: ni wn pwy a'i cant), nid oes dim amheuaeth ynghylch ei ddilysrwydd. Y tebyg yw, fel yr awgrymodd Thomas Parry yn GDG t. 534, iddo gael ei ddisodli gan boblogrwydd y cywydd arall i'r ceiliog bronfraith, GDG rhif 159, cywydd symlach y mae cryn ansicrwydd ynghylch ei awduraeth er gwaethaf y dystiolaeth lawysgrifol. Fel y nododd R. Geraint Gruffydd mewn ymdriniaeth gynhwysfawr â'r cywydd, 'A Glimpse of Welsh Medieval Court Procedure in a Poem by Dafydd ap Gwilym' yn Recognitions: Essays Presented to Edmund Fryde, gol. Colin Richmond ac Isobel Harvey (Aberystwyth, 1996), 165–78, ymddengys mai'r fronfraith sy'n gyffredin ledled Ewrop, y Turdus philomelos (Saesneg song thrush) a ddisgrifir yn y ddwy gerdd, er gwaethaf awgrym Rachel Bromwich, SPDG 93, mai brych y coed neu'r fronfraith fawr, y Turdus viscivorus (Saesneg mistle thrush), sydd dan sylw yma oherwydd ei ymddygiad mwy hy ac awdurdodol. Er bod y ddau aderyn i'w gweld ar flaenau canghennau, byddai bronfraith yn fwy cartrefol mewn coedwig na brych y coed, ac er bod y naill a'r llall yn canu ym mis Mai (cymh. ll. 1) tueddir i gysylltu brych y coed â dechrau'r flwyddyn gan fod ei gân yn arbennig o drawiadol bryd hynny. Y mae'n ansicr a oedd brych y coed i'w gael o gwbl yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Yn ôl Birds in Wales, ed. R. Lovegrove et al. (London, 1994), 277:
The Mistle Thrush was virtually unknown in much of north and west Britain two hundred years ago and although no contemporary accounts exist relating specifically to Wales, the inference has to be drawn that most of Wales was colonised by the species during the period of fairly spectacular expansion which occurred in the first half of the 19th century (Ireland was colonised for the first time during this period also).
Y mae'r cywydd yn cychwyn yn debyg i gywyddau llatai Dafydd drwy foli a dyfalu'r aderyn a sôn am ei anfon yn negesydd at y ferch. Ond caiff y ddelweddaeth o fyd y gyfraith a byd gweinyddiaeth leol yr uchelwyr ei datblygu'n feiddgar i ddisgrifio'r aderyn fel swyddog cyfraith yn cynnal achos llys, gan ddarllen, fe ymddengys, gyhuddiad Dafydd ynghylch difrawder y ferch. Er mai colli'r achos yw ei hanes – am iddo beidio ag ymddangos gerbron y llys ac, efallai, hefyd, am i'r ferch wadu'r cyhuddiad – y mae'n ffyddiog y bydd yn llwyddiannus yn y pen draw. Rhydd Gruffydd yn ei ymdriniaeth ddiweddar ddehongliad manwl o gynnwys cyfreithiol y gerdd, gan ddangos ei fod yn adlewyrchu'n bennaf y drefn Seisnig a orseddwyd yn sgil y goncwest, yn gymysg â rhai elfennau o Gyfraith Hywel a oedd yn dal yn weithredol yn ystod y 14g. Ynghyd â darlleniad o'r cywydd ceir golygiad a chyfieithiad Saesneg ganddo sy'n seiliedig yn bennaf ar Pen 52, ac yn HGDG ceir ganddo ymdriniaeth gryno ac aralleiriad.
Ceir testun da yn Pen 52 mewn llaw anhysbys o ail hanner y 15g., ond mae'n anodd ei ddarllen mewn ambell fan, yn enwedig yn ll. 19. Y mae testun Pen 78 (c. 1580), sy'n annarllenadwy bellach mewn sawl man, yn cynnwys ychydig ddarlleniadau amrywiol ond ar y cyfan yn cadarnhau darlleniadau'r llsgr. gynharaf. Ceir trydydd copi o'r cywydd, hyd at l. 42, yn Ll 118 (dechrau'r 17g.), ac mae hwnnw'n deillio o'r un ffynhonnell â Pen 78. Yn Pen 52 yn unig y cadwyd llau. 3–4 a 19–20.
Cynghanedd: croes 7 ll. (14%), traws 9 ll. (18%) (ll. 11 yn wreiddgoll), sain 27 ll. (54%) (llau. 5 a 43 yn bengoll, a gw. ll. 19n.), llusg 7 ll. (14%).
1. difeioed Ffurf amwys. Yn ogystal ag apwyntiad di-feth mis Mai, gellid deall oed yn yr ystyr 'oed serch' neu 'cyfnod, adeg'. Cymh. y disgrifiad o'r ceiliog bronfraith fel mab maeth Mai yn 39.20.
3. cantor Cantor eglwysig, mae'n debyg. Yn yr un modd, disgrifir yr ehedydd fel Cantor o gapel Celi, 44.35.
caer wydr Cymh. o'i dŷ glaswydr yn ll. 32 isod. Tebyg mai 'gloyw' yw prif ystyr gwydr yma, ond gall fod yma gyfeiriad hefyd at gaer wydr yr arall fyd Celtaidd neu'r tŷ gwydrin a gysylltir â chwedl Myrddin yn y Trioedd, gw. DGIA 119.
4. gwyrddion esgyll Trosiad am ddail, cymh. 32.16 Dan esgyll dail mentyll Mai, a gweddeiddblu gwŷdd yn 41.14 a 133.30.
5. organ Cymherir llais bronfraith i sŵn organ yn y cywydd ansicr ei awduraeth i'r ceiliog bronfraith, 159.16, sy'n gyson â chân felodaidd glir yr aderyn (gw. 10n. isod).
7. pregethwr Ceir yr un trosiad am y ceiliog bronfraith yn 159.19.
9. sieri Prif swyddog y Goron mewn sir. Dilynir Pen 52 (y ffurf fwy cyfarwydd siri sydd yn y ddwy lsgr. arall; GDG siryf). Rhestrir y ffurf hon, o'r Saesneg Canol sherive, ymhlith yr amrywiadau niferus yn GPC 3293 d.g. siryf, sirif, siri1. Gw. hefyd GIG III.13n. ar siri.
10. saith ugeiniaith Cymh. GLGC 205.21 O'r saith ugeiniaith a gad. Cyfeiriad at amrywiaeth cân yr aderyn, mae'n debyg: 'Loud, clear, vigorous succession of simple but musical phrases distinguished by their repetitive character, great variety, and clear enunciation' (Handbook of the Birds of Europe, the Middle East and North Africa. The Birds of the Western Palearctic, vol. v, ed. S. Cramp et al. (New York, 1988), 995). Awgrymir yr un amrywiaeth yn 39.4–6 Y ceiliog bronfraith celfydd / Yn canu ynglyn alathr, / Arwyddion a llithion llathr. Llai amrywiol yw cân brych y coed, ond gwerth nodi'r hen goel ei fod yn medru saith iaith, gw. Francesca Greenoak, British Birds: Their Folklore, Names and Literature (London, 1997), 166.
11. iustus Tebyg mai dyma'r ffurf a gynrychiolir gan Evstus Pen 52, o'r Saesneg Canol justice, gw. GPC 3720 d.g. ustus, iustus, iestus, ayb. (dyfynnir enghreifftiau o'r ffurf hon o'r 14g).
12. ystiwart llys Y swyddog a fyddai'n gyfrifol am faterion domestig y llys; enw arall ar y distain, fe ymddengys, yng Nghyfraith Hywel, gw. LlI 107.
13. cyweithas 'Cwmni' neu 'mintai o ganlynwyr, gosgordd', ond mae'r union ystyr yma yn ansicr. Awgryma Gruffydd, HGDG 58, 'fy nghwmni [o feirdd?]'; cwmnïaeth yr adar yn ôl Bromwich, SPDG 93.
17. ceiniad Ymddengys mai dyna sydd yn Pen 52, ond fel y nodir yn GDG t. 534, gellid darllen ceimiad 'arwr'. Mae Pen 78 hefyd yn anodd ei ddarllen yn y fan hon: [ ]yniad? Ll 118 dowaid.
19–20. Yn Pen 52 yn unig y ceir y cwpled hwn, ac nid oes modd darllen dechrau ll. 19. Ymddengys mai ll sydd ar ddechrau'r llinell a cheir wy yn ei chanol yn ffurfio odl cynghanedd sain, mae'n debyg, â Creirwy. Yr hyn a ddarllenodd Gruffydd (1996, 173–4) yn betrus oedd Lly ...wy, a chynigia 'Cynnig (Llywy, Creirwy Cred)' sy'n ffurfio cymeriad llythrennol â'r llinellau blaenorol.
19. Creirwy Creirwy ferch Ceridwen, un o 'Dair Gwenriain Ynys Prydain', gw. TYP 198, 311; WCD 148–9), a phatrwm prydferthwch i'r beirdd. Yn ôl Hywel ab Einion Lygliw yr oedd yn gariadferch i Arwy Hir, gw. TYP 311, GEO, Atodiad C, 4.3n. Ceir yr ymadrodd Creirwy cred mewn cynghanedd sain mewn cywydd serch o waith Madog Benfras, DGG LXVII.21 Duw a ŵyr pwy, Creirwy cred.
21–2. Hyder ... A wnaeth ... Cymh. 87.11 Hyder a wna dringhedydd.
27. dwedud Berfenw yn cyfleu'r amser gorffennol. Y ffurf orchmynnol dowed sydd yn y ddwy lsgr. arall — ai ffrwyth deall dysg yn ll. 25 yn ferf orchmynnol yn hytrach nag enw? Yn nhestun GDG fe'i diwygiwyd i dywad 'dywedodd', sy'n ffurfio cymeriad cryf â diwyd yn ll. 28.
30. gwir Gall fod yn derm cyfreithiol yma. Ymhlith yr ystyron yn GPC 1666 rhoddir 'hawl, hawl gyfreithiol fel y gwir berchennog; cyfraith'; cymh. aralleiriad Gruffydd o'r llinell hon, HGDG 58: 'Ei hawl gyfreithiol drwy ei lythyr gwarant'.
llythr gwarant Yn ôl Gruffydd (1996, 169), cyfeirir, mae'n debyg, at y comisiynau brenhinol a'r breintlythyrau a awdurdodai Brifustusiaid a Siryfiaid i gynnal eu llysoedd yn y Dywysogaeth.
34. rhol Rholyn hir o femrwn, sef rhol y llys. Cymh. 57.15 Rhol fawr a fu'n glawr i'r glaw (am y niwl).
36. daered Dyled gyfreithiol, gw. GPC 878.
dirwy dremyg Dirwy am ddirmyg llys. Ystyr tremyg yng Nghyfraith Hywel yw'r weithred o ddiystyru hawliau'r diffynnydd, cymh. LlB 104 Tri ryw varn tremyc yssyd. Vn yw barn a rother yn erbyn dyn nys clywho pan datganher gyntaf y mywn llys... Eil yw brawt a rother ar dyn kydrychawl trwy wrthrymder o pleit y brenhin neu y brawdwr neu wyr y llys. Trydyd yw barn brawdwr anheilwng; ib. 125 Tremyc gwys neu vechniaeth yw na del dyn yn dyd galw y lys ossodedic y atteb, neu y amdiffyn rac atteb.
40. cwyn Term cyfreithiol: cyhuddiad, neu achos cyfreithiol. Cymh. e.e. 128.23–4 A dod, feinir, yn ddirwy, / A phaid â'th gŵyn, ddyn mwyn, mwy.
42. o brudd Cymh. 74.53 Os o brudd y'm gwarthruddiawdd; 123.39–40 Ni ddyry ar ei ddeurudd / O ddwfr brwd, o ddifri brudd...
ef a gais ei brad Cymh. 43.31 Cais frad ar yr abades.
44. Dewi Dewi Sant, awgrym bod y nawddsant ei hun o blaid y carwr. Cymh. e.e. 129.2–6 Lleian aeth er llu o nef, / Ac er Non ... / Ac er Dewi ... / O Fôn deg ... / I Fynyw dir ... .
45. 'y myd Dilynir Pen 52 (Pen 78 fy myd). Digwydd y ffurf lafar 'y yn aml, e.e. 143.26 Wybod 'y mod mewn bedw mân.
46. geinwad goeth Dilynir darlleniad anos Pen 52, sy'n cynnwys y math o baradocs a welir yn aml yn sangiadau Dafydd. Cymerir mai disgrifiad o'r ferch yw'r sangiad hwn, fel gêl ei gofeg ac 'y myd rhyddoeth yn y llinellau blaenorol. Cymh. ffurfiau cyfansawdd megis hwyrwat a mawrwat yn G 596 d.g. gwat. Pen 78 geimiad, a dyna sydd yn nhestun GDG (ymddengys mai dyna a ddarllenodd Thomas Parry yn Pen 52 hefyd); cymh. 90.12 braisg geimiad brwysg, lle mae ceimiad yn wrywaidd, a gw. 17n. uchod.
48. prydydd serch Ceir yr un trosiad am y ceiliog bronfraith yn rhif 159.
i baradwys GDG o baradwys, ar sail Pen 78 (unwaith eto, ymddengys mai dyma a ddarllenodd Thomas Parry yn Pen 52). Dymuniad Dafydd yw i Dduw adael y ceiliog bronfraith i mewn i'r nefoedd oherwydd ei gymwynas ag ef. Cymh. diweddglo marwnad Dafydd i Ruffudd Gryg, 22.61–6 Edn glwys ei baradwyslef, / Ederyn oedd o dir nef. / O nef y doeth, goeth gethlydd, / I brydu gwawd i bryd gwŷdd; / Awenfardd a fu winfaeth, / I nef, gwiw oedd ef, ydd aeth. Ceir cyfeiriad tebyg hefyd ar ddiwedd y cywydd ansicr ei awduraeth i'r ceiliog bronfraith, 159.29–32, Odid ydoedd i adar / Paradwys, cyfrwys a'i câr, / O dro iawngof drwy angerdd / Adrodd a ganodd o gerdd. Ar gysylltiad adar, a'r fronfraith yn benodol efallai, â'r baradwys nefol ac â'r arall fyd Celtaidd, gw. Edwards, DGIA 118 a Bromwich, SPDG 92–3.