1 y mae pob mai diveioed
2 ar vlaenav kanghennav koed
3 kantor hydr ar gaer wydr gyll
4 Esgud dann wyrddion esgyll
5 keilioc tec rrec rrac organ
6 bronnvraith drwy gyvraith agan
7 pregethwr maith pob ieithoedd
8 penndevic ar goedwic oedd
9 sierri vydd ymedwydd mai
10 saith vgeiniaith a ganai
11 Evstus gwiw ar vlaen gwiail
12 Estiwart llys dyrys dail
13 athro maith vynghyweithas
14 ieithydd ar vric plannwydd plas
15 kywirwas ar vriglas vry
16 kydymaith mewn koed ymy
17 keiniad yw gorevryw gan
18 A gynnvll pwyll ac annian
19 [16] ll[ ]wy kreirwy kred
20 am yvvn a mi vyned
21 hyder a balch ehedec
22 a wnaeth a dewiniaeth dec
23 o blas iblas drwy draserch
24 o lwyn ilwyn er mwyn merch
25 Dysc annerch a discynnv
26 lle roedd y vvn llariaidd vv
27 dwedud yn dec vy neges
28 Diwyd vydd penn llywydd lles
29 D[ ]ngos a wnaeth kydvaeth kant
30 ygwir yni lythr gwarant
31 darlleodd ymadrodd mydr
32 dec lwyswawd oi dy glaswydr
33 Gelwis yn vaith gyvreithiol
34 Arna ddechre r haf or rrol
35 [17] kollais ni dda[ ]
36 daered rym dirwy dremic
37 kyd kollwn gwnn o gynnydd
38 dirwyon dann wyrddion wydd
39 nichyll traserch merch imi
40 kain nerthoedd nam kwyn
41 o bydd kymen ygennad
42 o brudd ef a gais i brad
43 Duw a wnel gel i gofec
44 Erovi a dewi dec
45 amod rrwydd ymyd rryddoeth
46 am y gennad geinwad goeth
47 [18] I adael ef ai lef lwys
48 brydydd serch i baradwys
49 ynad mygr gannheiliad
50 Enw gwiwddoeth yno i gweddai
Dd' Ap Gwilym Ai kant