â â â Y Seren
1â â â Digio'dd wyf am liw ewyn,
2â â â Duw a wyr meddwl pob dyn.
3â â â O daw arnaf o'i chariad,
4â â â F'enaid glwys, fyned i'w gwlad,
5â â â Pell yw i'm bryd ddirprwyaw
6â â â Llatai drud i'w llety draw,
7â â â Na rhoi gwerth i wrach, serth swydd,
8â â â Orllwyd daer er llateirwydd,
9â â â Na dwyn o'm blaen dân-llestri,
10â â â Na thyrs cwyr, pan fo hwyr hi,
11â â â Dros gysgu y dydd gartref
12â â â A rhodio'r nos dros y dref.
13â â â Ni'm gwyl neb, ni'm adnebydd,
14â â â Ynfyd wyf, yny fo dydd.
15â â â Mi a gaf heb warafun
16â â â Rhag didro heno fy hun
17â â â Canhwyllau'r Gwr biau'r byd
18â â â I'm hebrwng at em hoywbryd.
19â â â Bendith ar enw'r Creawdrner
20â â â A wnaeth saeroniaeth y sêr,
21â â â Hyd nad oes dim oleuach
22â â â No'r seren gron burwen bach.
23â â â Cannaid yr uchel geli,
24â â â Cannwyll ehwybrbwyll yw hi.
25â â â Ni ddifflan pryd y gannwyll,
26â â â A'i dwyn ni ellir o dwyll.
27â â â Nis diffydd gwynt hynt hydref,
28â â â Afrlladen o nen y nef.
29â â â Nis bawdd dwfr, llwfr llifeiriaint,
30â â â Disgwylwraig, dysgl saig y saint.
31â â â Nis cyrraidd lleidr â'i ddwylaw,
32â â â Gwaelod cawg y Drindod draw.
33â â â Nid gwiw i ddyn o'i gyfair
34â â â Ymlid maen mererid Mair.
35â â â Golau fydd ymhob ardal,
36â â â Goldyn o aur melyn mâl.
37â â â Gwir fwcled y goleuni,
38â â â Gwalabr haul, gloyw wybr yw hi.
39â â â Hi a ddengys ym heb gudd,
40â â â Em eurfalch, lle mae Morfudd.
41â â â Crist o'r lle y bo a'i diffydd
42â â â Ac a'i gyr, nid byr y bydd,
43â â â Gosgedd torth gan gyfan gu,
44â â â I gysgod wybr i gysgu.