Y Seren
Rwy'n gwylltio am [ferch o] liw ewyn,
Duw sy'n gwybod meddwl pawb.
Os bydd i mi fynd i'w hardal
4 o gariad ati, f'anwylyd hardd,
nid yw'n fwriad gennyf anfon negesydd serch costus
yn fy lle i'w chartref draw,
na thalu hen wraig (swydd anllad)
8 lwyd iawn a ffyrnig i fynd â neges serch,
na chario llusernau o'm blaen,
na thorsiau cwyr, pan fydd hi'n nos,
yn lle cysgu gartref yn ystod y dydd
12 a chrwydro ar hyd y dref gyda'r nos.
Ni fydd neb yn fy ngweld, nac yn f'adnabod,
(rwy'n wallgof) nes iddi wawrio.
Rhag i mi fynd ar goll ar fy mhen fy hun heno
16 mi a gaf heb ddal yn ôl
ganhwyllau'r Gwr biau'r byd
i'm harwain at y gem tlws ei hwyneb.
Bendith ar enw'r Arglwydd Greawdwr
20 a saernïodd y sêr,
fel nad oes dim byd goleuach
na'r seren gron burwen fach.
Haul y nefoedd uchel,
24 cannwyll chwim ei meddwl yw hi.
Ni fydd golwg y gannwyll yn diflannu,
ac ni ellir ei dwyn drwy dwyll.
Ni fydd gwynt hynt hydref yn ei diffodd,
28 bara'r offeren o frig y nef.
Ni fydd dwr yn ei boddi, ffrydiau gwlyb,
gwylwraig, dysgl bwyd y saint.
Ni fydd lleidr yn ei chyrraedd â'i ddwylo,
32 gwaelod bowlen y Drindod draw.
Nid oes diben i ddyn o'i ranbarth
hela perl Mair.
Golau fydd ymhob ardal,
36 darn bath o aur melyn gloyw.
gwir darian gron y goleuni,
delw haul, gwlithyn yr wybren yw hi.
Hi a ddengys i mi heb guddio
40 lle y mae Morfudd, gem euraidd a balch.
Crist a fydd yn ei diffodd o'r lle y bo
a'i gyrru, nid [am amser] byr y bydd,
ffurf torth wen gyfan hyfryd,
44 i gysgod yr wybren i gysgu.