| Y Seren | |
| Rwy'n gwylltio am [ferch o] liw ewyn, | |
| Duw sy'n gwybod meddwl pawb. | |
| Os bydd i mi fynd i'w hardal | |
| 4 | o gariad ati, f'anwylyd hardd, |
| nid yw'n fwriad gennyf anfon negesydd serch costus | |
| yn fy lle i'w chartref draw, | |
| na thalu hen wraig (swydd anllad) | |
| 8 | lwyd iawn a ffyrnig i fynd â neges serch, |
| na chario llusernau o'm blaen, | |
| na thorsiau cwyr, pan fydd hi'n nos, | |
| yn lle cysgu gartref yn ystod y dydd | |
| 12 | a chrwydro ar hyd y dref gyda'r nos. |
| Ni fydd neb yn fy ngweld, nac yn f'adnabod, | |
| (rwy'n wallgof) nes iddi wawrio. | |
| Rhag i mi fynd ar goll ar fy mhen fy hun heno | |
| 16 | mi a gaf heb ddal yn ôl |
| ganhwyllau'r Gŵr biau'r byd | |
| i'm harwain at y gem tlws ei hwyneb. | |
| Bendith ar enw'r Arglwydd Greawdwr | |
| 20 | a saernïodd y sêr, |
| fel nad oes dim byd goleuach | |
| na'r seren gron burwen fach. | |
| Haul y nefoedd uchel, | |
| 24 | cannwyll chwim ei meddwl yw hi. |
| Ni fydd golwg y gannwyll yn diflannu, | |
| ac ni ellir ei dwyn drwy dwyll. | |
| Ni fydd gwynt hynt hydref yn ei diffodd, | |
| 28 | bara'r offeren o frig y nef. |
| Ni fydd dŵr yn ei boddi, ffrydiau gwlyb, | |
| gwylwraig, dysgl bwyd y saint. | |
| Ni fydd lleidr yn ei chyrraedd â'i ddwylo, | |
| 32 | gwaelod bowlen y Drindod draw. |
| Nid oes diben i ddyn o'i ranbarth | |
| hela perl Mair. | |
| Golau fydd ymhob ardal, | |
| 36 | darn bath o aur melyn gloyw. |
| gwir darian gron y goleuni, | |
| delw haul, gwlithyn yr wybren yw hi. | |
| Hi a ddengys i mi heb guddio | |
| 40 | lle y mae Morfudd, gem euraidd a balch. |
| Crist a fydd yn ei diffodd o'r lle y bo | |
| a'i gyrru, nid [am amser] byr y bydd, | |
| ffurf torth wen gyfan hyfryd, | |
| 44 | i gysgod yr wybren i gysgu. |