Kywydd y seren
1 Digiaw ddwyf am liw ewyn
2 duw a wyr meddwl pob dyn
3 o daw arnaf oi chariad
4 venaid glwys vyned yw gwlad
5 [478] pell yw ym bryd obrwyaw
6 llatai drud ym llety draw
7 na rhoi gwerth i wrach serth swydd
8 aurllwyd taer er llatairwydd
9 na dwyn om blaen dan llestri
10 na thyrs kwyr pan vo hwyr hi
11 dros gysgv y dydd gartref
12 i airdiawr nos dros y dref
13 nym gwyl neb nym addnebydd
14 ynfyd wyf yny vo dydd
15 mi a gaf heb waravun
16 rhag digio heno vy hvn
17 kanwylleu ywch benn y byd
18 ym hebrwng at em hoewbryd
19 bendith yr kreadyrner
20 a wnaeth saeroniaeth y ser
21 hyd nadoes dim olauach
22 na r seren gronn bennwen bach
23 kannaid yr vchel geli
24 kannwyll ewybrwy ewybr bwyll yw
hi
25 ny ddifflann pryd y gannwyll
26 ai dwyn ny ellir o dwyll
27 nys diffyd gwynt hynt hydref
28 orlladen o nenn y nef
29 nys bawdd dwfr llwfr llivairiaint
30 disglair wraig dysgybl saig saint
31 nys kyrraidd llaidr oi ddwylaw
32 gwaelod kawg y drindod draw
33 [479] nyd gwiw i ddyn oi gywair
34 ymlid maen meryrid Mair
35 golauad ymhob ardal
36 goldyn o aur melyn mal
37 gwir vwkled y golaini
38 gwalabr haul gwelw wybr yw hi
39 hi a ddengys ym heb gudd
40 em aurfalch lle mae Morfydd
41 krist or lle bo ai diffyd
42 teg ai gyrr nyd byddrr y byd
43 gosgedd torth gann gyvan gv
44 i gysgod wybr i gysgv
Davydd ap gwilim ai kant