â â â Y Don ar Afon Dyfi
1â â â Y don bengrychlon grochlais,
2â â â Na ludd, goel budd, ym gael bais
3â â â I'r tir draw lle daw ym dâl,
4â â â Nac oeta fi, nac atal.
5â â â Gad, ardwy rhad, er Duw Rhi,
6â â â Rhwyfo dwfr rhof a Dyfi.
7â â â Tro drachefn, trefn trychanrhwyd,
8â â â Dy fardd wyf, uwch dwfr ydd wyd.
9â â â A ganodd neb â genau
10â â â O fawl i'r twrf meistrawl tau,
11â â â Gymar hwyl, gem yr heli,
12â â â Gamen môr, gymain â mi?
13â â â Ni bu brifwynt planedsygn,
14â â â Na rhuthr blawdd na deugawdd dygn,
15â â â Nac esgud frwydr nac ysgwr,
16â â â Nac ysgwydd gorwydd na gwr,
17â â â Nas cyfflypwn, gwn gyni,
18â â â Grefdaer don, i'th gryfder di.
19â â â Ni bu organ na thelyn,
20â â â Na thafawd difeiwawd dyn,
21â â â Nas barnwn yn un gyfref,
22â â â Fordwy glas, â'th fawrdeg lef.
23â â â Ni chair yr ail gair gennyf
24â â â Am f'enaid, brad naid, bryd Nyf,
25â â â Ond galw ei thegwch golau
26â â â A'i phryd teg yn lle'r ffrwd dau.
27â â â Am hynny, gwna na'm lluddiych,
28â â â Ymwanwraig loyw dwfr croyw crych,
29â â â I fyned, f'annwyl a'm barn,
30â â â Drwy lwyn bedw draw Lanbadarn
31â â â At ferch a'm gwnaeth, ffraeth ffrwythlyw,
32â â â Forwyn fwyn, o farw yn fyw.
33â â â Cyfyng gennyf fy nghyngor,
34â â â Cyfeilles, marchoges môr:
35â â â Ateg wyd rhof a'm cymwd,
36â â â Atal â'th drwyn ffrwyn y ffrwd.
37â â â Pei gwypud, don ffalinglwyd,
38â â â Pefrgain letywraig aig wyd,
39â â â Maint fy ngherydd am drigiaw!
40â â â Mantell wyd i'r draethell draw.
41â â â Cyd deuthum er ail Indeg
42â â â Hyd yn dy fron, y don deg,
43â â â Ni'm lladdo rhyfel gelyn
44â â â O'm lluddiud i dud y dyn;
45â â â Neu'm lladd saith ugeinradd serch,
46â â â Na'm lludd at Forfudd, f'eurferch.