â â â Moliant Llywelyn ap Gwilym
1â â â Llyfr dwned Dyfed, dyfyn-ar windai
2â â â I randir Llywelyn;
3â â â Llannerch, aed annerch pob dyn,
4â â â Lle twymlys llu, at Emlyn.
5â â â Llyn i barc Emlyn, camlas-hyd Deifi,
6â â â A'r tefyrn ymhob plas,
7â â â Lluddied gardd, lladded ei gas,
8â â â Lle bo'r orddod, llwybr urddas.
9â â â Llwybr urddas, bar bras yn bwrw bryn,-eglur
10â â â Oglais Lloegr a
Phrydyn,
11â â â Lle dêl yr holl fyd a dynn,
12â â â Llaw hael, ac enw Llywelyn.
13â â â Llywelyn a'u myn ym ynni-a grym,
14â â â Llawenfab Gwilym, erddrym wrddri,
15â â â Llai ymadrawdd cawdd i'n coddi-no chaeth,
16â â â Llywodraeth a wnaeth a maeth i mi.
17â â â Llafuriawdd, berthawdd i borthi-digeirdd,
18â â â Llys ym mryn y beirdd, lle heirdd yw hi,
19â â â Lle gnawd cael gwasgawd a gwisgi-ddillad,
20â â â Llety anghaead, wastad westi.
21â â â Lle cynefin gwin a gweini-heilgyrn,
22â â â Lle chwyrn, llwybr tefyrn, lle beirw
Teifi.
23â â â Lle dichwerw, aserw, o erysi-bryd,
24â â â Lle chwery esbyd byd heb oedi.
25â â â Lle maith yn llawnwaith llenwi-buelin,
26â â â Lle mae ufuddwin llym i feddwi.
27â â â Lle o'th nerth, Dduw ferth, ydd af fi-drachefn,
28â â â Lle anarlloestrefn, llanw aur llestri.
29â â â Llys eurwr, a'i gwnaeth llu seiri-yn falch,
30â â â Lliwgaer yn lasgalch, llugyrn losgi.
31â â â Llawnaf, dianaf, daioni-mynud,
32â â â Lluniaeth ffraeth, ffrwythdud, glud
glodfori.
33â â â Llwybreiddwlad, gariad Gwri-Wallt Euryn,
34â â â Llywelyn drawstyn a â drosti.
35â â â Llywiawdr, ymerawdr meiri-Edelffled,
36â â â Llyw yw ar Ddyfed, llawer ddofi.
37â â â Llorf llwyth, ei dylwyth hyd Wyli-y traidd,
38â â â Llariaidd, brawdwriaidd, ail Bryderi.
39â â â Llathrlaw ysb euraw, ysberi-gwëyll,
40â â â Llid Pyll, arf dridryll, arfod Rodri.
41â â â Llinongadr, baladr Beli-yng nghyngaws,
42â â â Llwyrnaws Llyr hoywdraws, llew
wrhydri.
43â â â Llawen grair, a'n pair yn peri-llwyddfoes,
44â â â Llawenydd a roes am oes i mi.
45â â â Llywelyn derwyn i dorri-aergad,
46â â â Llawfad aur-rhuddiad a wyr rhoddi.
47â â â Llwydda, na threia, Un a Thri-rhag llaw,
48â â â Llwyddaw dawn iddaw, Duw i'w noddi.