Y Don ar Afon Dyfi
Y don bengrych gynhyrfus, groch ei llais,
paid â'm rhwystro - arwydd o ffafr - rhag mynd
drwodd
i'r tir draw lle daw imi wobr,
4 paid â pheri imi oedi, paid â'm hatal.
Gad - nawdd bendithiol - er mwyn yr Arglwydd Dduw,
imi rwyfo'r dwr ar draws Dyfi.
Tro eilwaith, trigfan i dri chant o rwydi,
8 dy fardd ydwyf, uwchlaw'r dwr yr wyt ti.
A ganodd neb â'i enau
i'th dwrw meistraidd di -
cymar hwyl, gem yr heli,
12 plyg y môr - gymaint o fawl â mi?
Ni fu gwynt mawr o gylch y sêr,
na chyrch chwyrn na dicter deublyg tost,
na brwydr sydyn na gwaywffon,
16 nac ysgwydd march na gwr,
na fyddwn yn eu cyffelybu - 'rwy'n gyfarwydd â
chaledi -
y don rymus a thaer, i'th gryfder di.
Ni fu organ na thelyn,
20 na thafod perffaith ei foliant unrhyw ddyn,
na fyddwn yn eu hystyried o'r un cryfder,
yr ymchwydd glas, â'th floedd fawr hardd.
Ni ddaw'r un gair gennyf bellach
24 am fy nghariad fradwrus ei ffawd, debyg i Nyf,
ond cymharu ei harddwch disglair
a'i gwedd deg â'th ffrwd di.
Am hynny, gofala na fyddi'n fy rhwystro,
28 ymladdwraig loyw dwr croyw byrlymus,
rhag mynd - bydd f'anwylyd yn gweld bai arnaf -
drwy lwyn bedw draw i Lanbadarn
at ferch a'm cododd - pendefig ffyniannus, huawdl -
32 eneth fwyn, o farw'n fyw.
Yr wyf mewn cyfyng-gyngor,
cyfeilles, marchoges y môr:
bwtres ydwyt rhyngof fi a'm cwmwd,
36 dal yn ôl â'th drwyn ffrwyn y ffrwd.
Pe na bait ond yn gwybod, y don lwyd ei chlogyn -
lletywraig ddisglair a hardd i haid o bysgod ydwyt -
gymaint yw fy ngherydd am oedi!
40 Mantell ydwyt i'r draethell draw.
Er imi ddod er mwyn cymar Indeg
hyd at dy fynwes, y don deg,
ni'm lleddir gan ryfel yr un gelyn
44 os byddi di'n fy nghadw o fro'r ferch;
saith ugain gradd serch a fydd yn fy lladd,
paid â'm cadw rhag Morfudd, fy merch ddisglair.