Nodiadau: 51 - Y Don ar Afon Dyfi

GDG 71

Perthyn y cywydd hwn i ddosbarth cywyddau'r rhwystrau, lle y mae rhyw elfen naturiol yn llesteirio'r bardd rhag teithio i gyfarfod â'i gariad. Wrth ddychwelyd, a hynny o daith glera efallai, o'r Gogledd yn ôl at Forfudd ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, caiff Dafydd fod afon Dyfi wedi codi yn ei haber, ac fe'i dyfala'n wenieithus â holl rym ei rethreg farddol gan ymbil ar y don i hwyluso'i hynt at Forfudd. Nid yw ond ychydig filltiroedd o'i gynefin, gan mai afon Dyfi oedd y ffin rhwng hen deyrnas Gwynedd a Cheredigion. Deufis yn nwylan Dyfi / Ni allwn fod hebod di, meddai Dafydd wrth Ifor Hael wrth ffarwelio ag ef ar daith i Wynedd (16.7–8).

Dadleuodd Rachel Bromwich (1964, 23; cymh. APDG 72–3) fod dylanwad Ofydd i'w weld ar y gerdd hon, gan fod y bardd Lladin, yn Amores iii. 6, yn cyfarch un o afonydd yr Eidal sy'n ei rwystro yntau rhag croesi at ei gariad. Cymharer sylwadau Gerald Morgan yn 'The Landscape of Dafydd ap Gwilym', Welsh and Breton Studies in Memory of Th. M. Th. Chotzen, ed. R. H. F. Hofman et al. (Utrecht, 1995), 32. Cymherir ymagwedd y ddau fardd gan Barry Lewis, 'Bardd Natur yn darllen Bardd y Ddinas? Dafydd ap Gwilym, 'Y Don ar Afon Dyfi', ac Ofydd, Amores iii. 6', LlC 31 (2008), 1–22. Gweler hefyd sylwadau Bromwich yn SPDG 124–5 lle y ceir enghreifftiau perthnasol o'r Iliad ac o lenyddiaeth Iwerddon. Ond fel y nododd D. J. Bowen (1972–4, 24–5) ac Edwards, DGIA 176, y mae croesi afon yn thema gyffredin yng nghanu'r cywyddwyr cynnar. Yn y cywydd 'Pererindod Merch' mae gofyn i'r ferch groesi deuddeg o afonydd rhwng Môn a Thyddewi, gan gynnwys afon Dyfi: A dwfn yw tonnau Dyfi, / Dŵr rhyn, yn ei herbyn hi (129.29–30). Yn debyg i'r cywydd hwn, mae Dafydd yn moli'r afonydd gan alw arnynt i beidio â rhwystro taith ei gariad. Ac yn y cywydd 'Taith i Garu' (96.15–18), sonia am groesi afon Masaleg ger ei gartref beunydd wrth gadw oed â Morfudd. Gweler ymhellach Gruffydd Aled Williams, 'Cywydd Gwilym ap Sefnyn i Afon Ogwen ac Afon Menai', Dwned 3 (1997), 83–95. Fel y dywed John Rowlands yn ei ragymadrodd i'w ddiweddariad o 'Y Don ar Afon Dyfi' yn HGDG 35, 'Diau i'r gerdd gael ei hysbrydoli fwy gan brofiad o deithio yng Nghymru na chan unrhyw ddylanwadau llenyddol cyfandirol'.

O ran cyfoeswyr Dafydd, bwriada Llywelyn Goch ap Meurig Hen dreulio'r gaeaf gyda'i neiaint yn Nannau rhag ofn i afon Dyfi gael ei chwyddo gan law: Llif Geredigion a'm lludd. / Hwyr i mi drwy Ddyfi draw, / Hyddod rwystr heddiw drostaw (GLlG 8.32–4). Sonia Llywelyn Goch hefyd am groesi afonydd ar ei daith o Ddyfi—ardal i lys Hopgyn ap Tomas, ib. 6.21–6. Mae'r modd y mae Dafydd yn cyfarch y don yn gyson â'r personoli sydd mor greiddiol i'w weledigaeth, a gellir cymharu cywydd Gruffudd Gryg i'r Don (DGG LXXV) y cyfeirir ato yn y nodiadau isod, lle y mae'n ymddiddan â hi ar ei fordaith o Santiago di Compostella gan ymbil arni i'w ddwyn adref yn ddiogel i Fôn.

Cynghanedd: croes 6 ll. (13%) ac un yn bengoll, traws 8 ll. (17.5%) ac un yn wreiddgoll, sain 22 ll. (48%) a thair yn bengoll, llusg 2 l. (4%), digynghanedd 8 ll. (17.5%).

Yn ôl arfer y cyfnod, digwydd pob un o'r llinellau digynghanedd ym mraich gyntaf y cwpled. Fe welir bod nifer y cynganeddion cytseiniol yn anghyffredin o fychan o gymharu â'r cynganeddion sain. Ceir nodiadau ar y cywydd ac ymdriniaeth â'r arddull gan D.J. Bowen, 'Ailganfod ein Traddodiad', Barddas 24 (Tachwedd 1978), 8.

Cadwyd y cywydd mewn tri fersiwn sylfaenol. Yng nghopi cynnar Pen 54 (c. 1480) mae 9–12, 23–6, 33–4 a 41–2 yn eisiau, ac mae trefn y llinellau'n wahanol yng nghanol y cywydd. Diogelwyd fersiwn Llyfr Wiliam Mathew yn Pen 49, Ll 6 a phedair o lsgrau Llywelyn Siôn. Yn uniongyrchol o'r Vetustus y deillia H 26 a'r amrywiadau yn Pen 49, a dyna ffynhonnell anuniongyrchol Bl f 3, CM 129 a thestun lled greadigol Wy 2. I'r un traddodiad hefyd y perthyn LlGC 560 (gyda pheth ailgyfansoddi), M 212 (sy'n agos iawn at destun H 26), Ll 14 a BM 29, ond bod yr olaf, fel y gwelir yn y nodiadau, yn dangos cryn dipyn o ôl ailgyfansoddi ac mae 29–30 yn eisiau. Yr un yw'r drefn yn y ddau fersiwn hir, ond bod 33–4 yn eisiau yn nhestun LlWM (fel y mae yn Pen 54) a 41–2 a 43–4 o chwith. Mae trefn fersiwn y Vetustus yn rhagori yma, ond fersiwn LlWM sy'n cynnig y darlleniadau mwyaf boddhaol ar y cyfan ac yn cyfateb amlaf i destun Pen 54.

1. Cymh. llinell agoriadol cywydd Gruffudd Gryg i'r Don, DGG LXXV.1 Y don ewynlon wenlas.

3. Mae Pen 54 a fersiwn LlWM yn gytûn. Fersiwn y Vetustus: I fyned draw, daw ym dâl, cymh. 27–9 na'm lluddiych... I fyned... .

4. oeta   Ceir yr un calediad yn GGDT 2.36 Er neb rhyw ateb, na'm rhyoeta (Gruffudd ap Dafydd ap Tudur).

5. Mae Pen 54 a fersiwn LlWM yn cyfateb yma eto, ac yn rhagori o ran ystyr ar fersiwn y Vetustus, Gad, er Duw rhad, ordwy rhi (GDG Gad, er Duw rad, ardwy ri). Digwydd yr ymadrodd Dduw Rhi yn 38.2.

6. Mae'r tri fersiwn yn gytûn. Cymerir mai 'ar draws' yw ystyr yr ymadrodd rhof a yma, yn hytrach nag 'i'. GDG Drais y dwfr, fi dros Dyfi, darlleniad nas ceir ond mewn copïau sy'n deillio o destun annibynadwy BM 29, lle ceir drais y dwfn fi dros Dyfi. Ceir llinell debyg yn 129.33–4 Ystwyth, ym mhwyth, gad ym hon, / Dreistew ddwfr, dros dy ddwyfron ('Pererindod Merch').

7. Fersiwn LlWM Dwg drachefn.

trefn    Ystafell neu drigfan a olygir yma, cymh. e.e. 36.7 a gw. 116.35n.

10. twrf    Anodd dewis rhyngddo a twf fersiwn LlWM. Mae'r cwpled hwn a'r nesaf yn eisiau yn Pen 54.

11. Fersiwn LlWM gem môr heli, ond ceir môr yn y llinell nesaf.

12. camen    Hon yw'r enghraifft gynharaf, gw. GPC 400. Fel yr awgryma Thomas Parry, GDG t. 502, tebyg mai'r hyn a olygir yw'r camdra neu'r tro ym mrig y don cyn iddi dorri.

13–14. Darlleniad fersiwn LlWM, cymh. Pen 54 Ni bu rruthrwynt blanhedsygn / Na rruthr blawdd na deugawdd dygn. Ymddengys mai darlleniad y Vetustus oedd Ni bu brifwynt blanetdyg(y)n / Na rhuthr clawdd rhag deuglawdd dyn, ond achosodd ll. 13 gryn drafferth i amryw o'r ysgrifwyr. Ceir ymgais i'w chynganeddu yn BM 29 ni bu blif blaned dwedyn. Fersiwn GDG o l. 14 yw Na rhuthr blawdd rhwng deuglawdd dygn, sy'n rhannol seiliedig ar ddarlleniad unigryw BM 29 a'i gopïau, na rhuthr cawdd rhwng deuglawdd dyn.

13. prifwynt planedsygn   Adlewyrchir yr un gred yng nghywydd 'Y Gwynt', 47.55 Deuy o'r sygnau diwael. Y prifwyntoedd yw'r pedwar gwynt pennaf, gw. GPC 2890.

14. deugawdd    Cymh. e.e. 127.8 Deugur.

17. cyfflypwn   Dyma'r ffurf yn Pen 54 a Pen 49. calediad o'r fath yn gyffredin mewn ffurfiau berfol amodol a dibynnol, cymh. ll. 37 gwypud, 144.35 prytwn.

gwn gyni   Digwydd yr un sangiad yn 98.35.

18. cryfder    Er mai cryfdwr yw'r ffurf yn Pen 54 ac yn fersiwn y Vetustus, dilynir darlleniad fersiwn LlWM gan mai i ganol y 15g. y perthyn yr enghraifft gynharaf o cryfdwr yn GPC 621.

19. Cynganeddir y llinell yn BM 29 ni bu lais digel telyn.

20. difeiwawd    Mae Pen 54 a fersiwn y Vetustus yn cyfateb yma eto. Fersiwn LlWM digrifwawd.

21. cyfref   Fel yr awgryma Gwyn Thomas (2001, 147), nid annichon cy- + bref yn hytrach na cyf- + rhef 'tew, llydan', gan mai ar sŵn y don yn hytrach na'i grym y mae Dafydd yn canolbwyntio yn y rhan hon o'r cywydd. Cynganeddir y llinell yn BM 29 nas tybygwn gwn gyfref.

24. Nyf    Yr arwres Wyddelig Niamh, o bosibl, gw. 69.8n. Â'r cyfeiriad hwn, cymh. yn arbennig 135.67 Cymer, brad nifer, bryd Nyf.

25–6. Fersiwn LlWM. Mae'r gystrawen yn llai boddhaol yn fersiwn y Vetustus, Yn galw ei thegwch golau / A'i phryd teg ar loywffrwd dau (BM 29 fal y ffrwd), ffrwyth ymgais, efallai, i drwsio'r gynghanedd draws wreiddgoll yn ll. 25. Ni cheir y cwpled hwn na'r cwpled blaenorol yn Pen 54.

26. yn lle   'Fel, yn debyg i', cymh. GDG 110.42 yn lle gwir 'yn wir'.

28. ymwanwraig    Delweddir y don fel marchog sy'n rhuthro at ei wrthwynebydd ar gefn march mewn twrnamaint, cymh. ll. 34n. Ceir trywanwraig trai yn drosiad am y don yn y cywydd 'I Ddymuno Lladd y Gŵr Eiddig' (116.37).

gloyw   Vetustus hoyw, yn wahanol i'r ddau fersiwn arall.

29–30. Cymh. 'Merched Llanbadarn', 137.19–20 Ni bu Sul yn Llanbadarn / Na bewn, ac eraill a'i barn... .

29. Cynghanedd groes bengoll.

a'm barn   LlWM o'm barn.

30. draw Lanbadarn   Enghraifft o dreiglad meddal yn dynodi cyrchfan; draw i Lanbadarn sydd yn y rhan fwyaf o destunau fersiwn y Vetustus, a rydd linell wythsill.

31. ffrwythlyw   Darlleniad Pen 54. Mae'r tri fersiwn yn wahanol yma: Vetustus ffrwythfyw, LlWM ffrwythryw (cymh. GDG). Cymerir bod y sangiad yn cyfeirio at Ddafydd ei hun yn hytrach na Morfudd. Cymh. ffraethlyw ffrwythlawn yn ddisgrifiad o Ifor Hael yn 13.7.

32. o farw yn fyw   Ceir syniad tebyg yn 144.35–8 Pei prytwn, gwn gan henglyn, / Er Duw a brydais er dyn, / Hawdd y gwnâi erof, o hawl, / Fyw o farw, fwyaf eiriawl.

33. Cynghanedd lusg wyrdro gydag y dywyll yn odli ag y olau, gw. CD 178 a chymh. 46.15 Fy ngwas gwych, ni'th fradychir; 155.3 Cynnydd Morda' neu Rydderch. Yn fersiwn y Vetustus yn unig y digwydd y cwpled hwn.

34. marchoges    Cynhelir y ddelwedd drwy alw arni yn y cwpled nesaf i atal ffrwyn y ffrwd. Cymh. DGG LXXV.19 Ei mwng a fwrw am angor (Gruffudd Gryg i'r Don).

35. cymwd    Sef cwmwd Perfedd, mae'n debyg, lle y trigai Dafydd a Morfudd. Ceir ymgais i gynganeddu'r llinell yn BM 29 ateg nych wyd ar grychffrwd.

37. Cyflwynir cynghanedd ar draul yr ystyr yn G 3 Pe gwypyd ing ffaling-lwyd.

38. pefrgain    Pen 54 pefrgan.

lletywraig  Ymddengys mai letywraig oedd darlleniad y Vetustus ac mai gwall am hynny yw letwraig Pen 54. Fel y mae'r don yn gartref i dri chant o rwydi (ll. 7), y mae hefyd yn lletywraig i haid o bysgod. Mabwysiadodd Thomas Parry ddarlleniad fersiwn LlWM lateiwraig, a geir yn Pen 49 ac yn llsgrau Llywelyn Siôn (ond letywraic yn Ll 6). Anfonir y don yn gennad gan Oleuddydd at Ruffudd Gryg yn DGG LXXV. Caiff afon ei hanfon yn llatai hefyd mewn cân ar fesur carol deuair o'r 16g. a briodolir i Lywelyn ap Hwlcyn o Fôn, gw. CRhC t. 25, a chymh. GST cerdd 276.

39. Cynganeddir y llinell yn BM 29 maint fy nig am dy drigaw.

41–4. Mae'r ddau gwpled o chwith yn fersiwn LlWM, sy'n chwalu'r cymeriad lladd... / lludd... ar ddiwedd y cywydd a geir yn Pen 54 ac yn fersiwn y Vetustus. Mae 41–2 yn eisiau yn Pen 54.

41. Indeg    Gw. 9.9n. Ceir yr un ymadrodd, ail Indeg, yn 104.1. Unwaith eto, gwelir ymgais i gyflwyno cynghanedd yn BM 29 gwedi mynd er ail yndeg.

45–6. Cymh. 33.29–30 A chof fydd Forfudd f'eurferch, / A chyffro saith nawtro serch. Digwydd y trawiad Forfudd f'eurferch yn 47.48 yn ogystal, a gall fod yn gyfeiriad at liw ei gwallt.

45. saith ugeinradd   Cymh. 49.10 Saith ugeiniaith a ganai; 99.49–50 Saith gywydd i Forfudd fain / Syth hoywgorff a saith ugain. Yr ergyd yw nad oes angen yr un gelyn i ladd y bardd — os na chaiff groesi at Forfudd bydd doluriau serch yn ddigon am ei fywyd. Ceir yr un syniad yn yr Ymryson ac, er enghraifft, yn y cywydd 'Gwayw Serch' (127).