cywydd ir donn
1 y donn bengrychlon grochlas
2 na ludd goel budd ym gael bas
3 i fynd draw o daw ym dâl
4 nag oeta fi nag attal
5 gad er duw rhad ordwy rhi
6 drais y dwfn fi dros Dyfi
7 tro drachefn trefn try chanrhwyd
8 dy fardd wyf uwch dwfr i ddwyd
9 a ganawdd neb a genau
10 o vawl ir twrwf meistrawl tau
11 gymar hwyl gem yr heli
12 gamen mor gymin a mi?
13 [196r] ni bu blif blaned dwedyn
14 na rhuthr cawdd rhwng deuglawdd dyn
15 nag esgud frwydr nag ysgwr
16 nag ysgwydd gorwydd na gwr
17 nas cyflybwn gwn gyni
18 gref daer donn ith gryfdwr di
19 ni bu lais digel telyn
20 na thafawd defeiwawd dyn
21 nas tybygwn gwn gyfref
22 vordwy glas ith vowrdeg lef
23 ni chair yr ail gair genyf
24 am fenaid brad naid bryd nyf
25 yn galw i thegwch golau
26 ai phryd teg fal y ffrwd tau
27 am hyn gwna fudd nam lluddych
28 ymwanwraig hoyw ddyfr croyw crych
31 at verch am gwnaeth ffraeth ffrwythfyw
32 forwyn fwyn o farw yn fyw
33 cyfing geny fyng hyngor
34 cyfeilles marchoges mor
35 ateg nych wyd ar grychffrwd
36 attal ath drwyn ffrwyn y ffrwd
37 pe gwypyd dan ffaling-lwyd
38 pefrgain lefywraig aig wyd
39 maint fy nig am dy drigaw
40 mantell ar y draethell draw
41 gwedi mynd er ail yndeg
42 hyd yn dy vron y don deg
43 nim lladdo rhyfel gelyn
44 om lluddyd i dud y dyn
45 neum lladd saith ugain radd serch
46 nam lludd at Vorfydd feurferch
dafydd ap Gwilym