| Ymddiddan â'r Cyffylog | |
| 'Tydy ehediad tewdwrf, | |
| Taer gyffylog, lidiog lwrf, | |
| Manag, edn mynog adain, | |
| 4 | Mae dy chwŷl; mad wyd a chain.' |
| 'Ffest a glew y mae'n rhewi, | |
| Ffo ydd wyf, myn fy ffydd i, | |
| Ar hynt o'r lle bûm yr haf, | |
| 8 | Ar guert rhag eiry gaeaf. |
| Rhyw gof dig, rhew gaeaf du | |
| A'i luwch ni'm gad i lechu.' | |
| 'Edn, yt hiroedl ni edir, | |
| 12 | Ederyn hardd duryn hir. |
| Dyred, na ddywed ddeuair, | |
| Lle mae a garaf, lliw Mair, | |
| Lle gofrwysg gerllaw gofron, | |
| 16 | Lle claer tes, lle clywir ton, |
| I ochel awel aeaf, | |
| O ras hir, i aros haf. | |
| 'O thry i'th ogylch, iaith ddrud, | |
| 20 | Treiglwr, chwibanwr traglud, |
| Â bollt benfras a bwa, | |
| A'th weled, ŵr, i'th wâl da, | |
| Na chudd er ei lais, na chae | |
| 24 | Dy lygad dan dy loywgae. |
| Eheda, brysia rhag brad | |
| A thwyll ef o'th ddull hoywfad | |
| O-berth-i-berth, drafferth drwch, | |
| 28 | O-lwyn-i-lwyn anialwch. |
| Glân dy dro, o glŷn dy droed | |
| I mewn magl ym min meigoed, | |
| Na fydd, dilonydd dy lam, | |
| 32 | Wrth gryngae, groglath gringam. |
| Tor yn lew i am d'ewin | |
| Â'th dduryn cryf wyth rawn crin; | |
| Trist big, hen goedwig a gâr, | |
| 36 | Trwyddau adwyau daear. |
| 'Disgyn heddiw ger rhiwallt | |
| Is tŷ gwen, ys teg ei gwallt, | |
| A gwybydd, er delw Gybi, | |
| 40 | Ger rhiw, a yw gywir hi. |
| Gŵyl ei thro, gwylia a thrig | |
| Yno, ederyn unig.' | |
| 'Bai reitiaf dy rybuddiaw, | |
| 44 | Tydi, fab teg arab: taw! |
| Rhywyr, mau ofn y rhewynt, | |
| Y gwylir hi, gwael yw'r hynt; | |
| Eres hyd y bu'n oeri, | |
| 48 | Aeth arall hoywgall â hi.' |
| 'Os gwir, edn, mau ehednwyf | |
| Is gil serch, ysgeulus wyf, | |
| Gwir a gant, gwarant gwiwras, | |
| 52 | Y rhai gynt am y rhyw gas: |
| "Pren yng nghoed"—mawroed yw'r mau— | |
| "Arall â bwyall biau."' | |