Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(img)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigYmddiddan â'r Cyffylog 'Tydy ehediad tewdwrf, Taer gyffylog, lidiog lwrf, Manag, edn mynog adain, Mae dy chwyl; mad wyd a chain.' 'Ffest a glew y mae'n rhewi, Ffo ydd wyf, myn fy ffydd i, Ar hynt o'r lle bûm yr haf, Ar guert rhag eiry gaeaf. Rhyw gof dig, rhew gaeaf du A'i luwch ni'm gad i lechu.' 'Edn, yt hiroedl ni edir, Ederyn hardd duryn hir. Dyred, na ddywed ddeuair, Lle mae a garaf, lliw Mair, Lle gofrwysg gerllaw gofron, Lle claer tes, lle clywir ton, I ochel awel aeaf, O ras hir, i aros haf. 'O thry i'th ogylch, iaith ddrud, Treiglwr, chwibanwr traglud, Â bollt benfras a bwa, A'th weled, wr, i'th wâl da, Na chudd er ei lais, na chae Dy lygad dan dy loywgae. Eheda, brysia rhag brad A thwyll ef o'th ddull hoywfad O-berth-i-berth, drafferth drwch, O-lwyn-i-lwyn anialwch. Glân dy dro, o glyn dy droed I mewn magl ym min meigoed, Na fydd, dilonydd dy lam, Wrth gryngae, groglath gringam. Tor yn lew i am d'ewin Â'th dduryn cryf wyth rawn crin; Trist big, hen goedwig a gâr, Trwyddau adwyau daear. 'Disgyn heddiw ger rhiwallt Is ty gwen, ys teg ei gwallt, A gwybydd, er delw Gybi, Ger rhiw, a yw gywir hi. Gwyl ei thro, gwylia a thrig Yno, ederyn unig.' 'Bai reitiaf dy rybuddiaw, Tydi, fab teg arab: taw! Rhywyr, mau ofn y rhewynt, Y gwylir hi, gwael yw'r hynt; Eres hyd y bu'n oeri, Aeth arall hoywgall â hi.' 'Os gwir, edn, mau ehednwyf Is gil serch, ysgeulus wyf, Gwir a gant, gwarant gwiwras, Y rhai gynt am y rhyw gas: "Pren yng nghoed"-mawroed yw'r mau- "Arall â bwyall biau."'