Ymddiddan â'r Cyffylog
'Tydi aderyn mawr ei dwrw,
gyffylog taer, llidiog ei ffordd,
dywed, aderyn bonheddig ei adain,
4 beth yw dy hynt; rwyt yn dda a chain.'
'Yn ddygn ac yn galed y mae'n rhewi,
ffoi yr wyf, myn fy ffydd i,
ar hynt o'r lle y bûm yn yr haf,
8 i gysgod rhag eira'r gaeaf.
Rhyw gof dig, ni ad rhew y gaeaf du
a'i luwch imi lechu.'
'Aderyn, ni roddir iti hoedl hir,
12 aderyn hardd hir ei big.
Tyrd (na ddywed ddau air)
i'r lle y mae'r un a garaf, [a chanddi] liw Mair,
lle llawen gerllaw llethr,
16 lle mwyn â thywydd braf, lle y clywir ton,
i osgoi awel aeafol,
drwy fendith hir, i aros am yr haf.
'Os daw yn agos iti (iaith feiddgar)
20 deithiwr, chwibanwr tra dyfal,
â saeth benfras a bwa,
a'i fod yn dy weld, wr, yn dy wâl dda,
paid â chuddio oherwydd ei lais, paid â chau
24 dy lygad dan dy res ddisglair.
Hedfana, brysia rhag brad,
a thwylla ef yn dy ddull bywiog a da
o berth i berth, trafferth anffodus,
28 o lwyn i lwyn anialwch.
Glân yw dy symudiad, os glyna dy droed
mewn magl wrth ymyl coed bychain,
nac ildia, aflonydd dy symudiad,
32 i gocsut (?), groglath grin a cham.
Torra yn gryf oddi am dy ewin
gyda'th big gref wyth edefyn crin o rawn;
trist big, hen goedwig a gâr,
36 taradr adwyau'r ddaear.
'Disgyn heddiw ger llethr goediog
is ty'r ferch, teg [yw] ei gwallt,
a chenfydd, er delw Cybi,
40 ger y llethr, a yw hi'n ffyddlon.
Gwylaidd ei symudiad, gwylia ac aros
yno, aderyn unig.'
'Byddai'n gallaf i'th rybuddio,
44 tydi, fab teg ffraeth: taw!
Yn rhy hwyr (mae gennyf ofn y rhewynt)
y gwylir hi, gwael yw'r hynt;
[mae'n] rhyfedd cyhyd y bu'n oeri,
48 aeth un arall bywiog a chall â hi.'
'Os gwir, aderyn (mae gennyf nwyf sy'n hedfan
ar ôl serch), fy mod wedi fy esgeuluso,
gwir a ganodd (gwarant gras da)
52 y rhai gynt am y fath beth cas â hyn:
"Coeden yn y coed"-mae gennyf hiraeth mawr-
"un arall â bwyall piau [hi]."'