| Ymddiddan â'r Cyffylog | |
| 'Tydi aderyn mawr ei dwrw, | |
| gyffylog taer, llidiog ei ffordd, | |
| dywed, aderyn bonheddig ei adain, | |
| 4 | beth yw dy hynt; rwyt yn dda a chain.' |
| 'Yn ddygn ac yn galed y mae'n rhewi, | |
| ffoi yr wyf, myn fy ffydd i, | |
| ar hynt o'r lle y bûm yn yr haf, | |
| 8 | i gysgod rhag eira'r gaeaf. |
| Rhyw gof dig, ni ad rhew y gaeaf du | |
| a'i luwch imi lechu.' | |
| 'Aderyn, ni roddir iti hoedl hir, | |
| 12 | aderyn hardd hir ei big. |
| Tyrd (na ddywed ddau air) | |
| i'r lle y mae'r un a garaf, [a chanddi] liw Mair, | |
| lle llawen gerllaw llethr, | |
| 16 | lle mwyn â thywydd braf, lle y clywir ton, |
| i osgoi awel aeafol, | |
| drwy fendith hir, i aros am yr haf. | |
| 'Os daw yn agos iti (iaith feiddgar) | |
| 20 | deithiwr, chwibanwr tra dyfal, |
| â saeth benfras a bwa, | |
| a'i fod yn dy weld, ŵr, yn dy wâl dda, | |
| paid â chuddio oherwydd ei lais, paid â chau | |
| 24 | dy lygad dan dy res ddisglair. |
| Hedfana, brysia rhag brad, | |
| a thwylla ef yn dy ddull bywiog a da | |
| o berth i berth, trafferth anffodus, | |
| 28 | o lwyn i lwyn anialwch. |
| Glân yw dy symudiad, os glyna dy droed | |
| mewn magl wrth ymyl coed bychain, | |
| nac ildia, aflonydd dy symudiad, | |
| 32 | i gocsut (?), groglath grin a cham. |
| Torra yn gryf oddi am dy ewin | |
| gyda'th big gref wyth edefyn crin o rawn; | |
| trist big, hen goedwig a gâr, | |
| 36 | taradr adwyau'r ddaear. |
| 'Disgyn heddiw ger llethr goediog | |
| is tŷ'r ferch, teg [yw] ei gwallt, | |
| a chenfydd, er delw Cybi, | |
| 40 | ger y llethr, a yw hi'n ffyddlon. |
| Gwylaidd ei symudiad, gwylia ac aros | |
| yno, aderyn unig.' | |
| 'Byddai'n gallaf i'th rybuddio, | |
| 44 | tydi, fab teg ffraeth: taw! |
| Yn rhy hwyr (mae gennyf ofn y rhewynt) | |
| y gwylir hi, gwael yw'r hynt; | |
| [mae'n] rhyfedd cyhyd y bu'n oeri, | |
| 48 | aeth un arall bywiog a chall â hi.' |
| 'Os gwir, aderyn (mae gennyf nwyf sy'n hedfan | |
| ar ôl serch), fy mod wedi fy esgeuluso, | |
| gwir a ganodd (gwarant gras da) | |
| 52 | y rhai gynt am y fath beth cas â hyn: |
| "Coeden yn y coed"—mae gennyf hiraeth mawr— | |
| "un arall â bwyall piau [hi]."' | |