GDG 115; HGDG tt. 75–7
Mae gan Dafydd ap Gwilym ddau gywydd i'r cyffylog. Yn y cywydd arall (rhif 53), tarfu ar y bardd a'i gariad a wna'r aderyn, gan ddychryn y ferch ac ennyn llid y bardd. Ond yn y cywydd hwn y mae'r bardd yn gobeithio y gall yr aderyn fod o gymorth iddo drwy hedfan i dŷ ei gariad a gweld a yw hi'n ffyddlon iddo. Fodd bynnag, nid oes angen i'r cyffylog fynd ar y neges gan ei fod eisoes yn gwybod bod y ferch yn caru â dyn arall. Mae'r gerdd yn diweddu wrth i'r bardd ailadrodd hen ddywediad: mae'r goeden yn y goedwig yn eiddo i'r sawl sydd â bwyall.
Gyda'i gorff tew a'i big hirsyth, y mae'r cyffylog yn aderyn pur drawiadol. Ceir disgrifiad llawn ohono yn Stanley Cramp et al. (gol.), Handbook of the birds of Europe, the Middle East and North Africa: the birds of the Western Palearctic, vol. 3: waders to gulls (Oxford, 1983) [= BWP iii], 444–57. Mae ei blu cuddliw, ei natur lechwraidd a'i gynefin mewn coedwigoedd a llwyni trwchus yn golygu ei fod yn anweledig fel rheol ('outstandingly difficult to study' meddai BWP iii, 451). Gan amlaf, bydd yn dibynnu ar ei blu cuddliw i'w gadw'n ddiogel. Ond os daw cerddwr yn rhy agos ato bydd yn codi i'r awyr ar y funud olaf mewn dull swnllyd iawn a all beri cryn fraw i'r sawl sydd heb sylwi arno. Er ei fod yn aderyn anodd ei wylio, fe'i helid ar raddfa bur eang yn yr Oesoedd Canol, ac yn y gerdd hon y mae'r bardd yn ei gynghori ynglŷn â sut y mae osgoi ei elynion.
Ni all y cyffylog aeafu mewn ardaloedd lle y bydd yn rhewi am gyfnodau maith (BWP iii, 446). Gan hynny, y mae'n fwyaf cyfarwydd yng Nghymru fel aderyn y gaeaf, wrth i adar o'r gogledd a'r dwyrain ddod yma i dreulio misoedd oeraf y flwyddyn. Mae rhai yn magu cywion yma yn yr haf, ond gall nad oeddynt yn gwneud hynny yn yr Oesoedd Canol, gw. Mark Cocker a Richard Mabey, Birds Britannica (London, 2005), 217. Yn sicr, ymwelydd yn y gaeaf yn unig oedd y cyffylog i George Owen (1552–1613) o Henllys, sy'n ei ddisgrifio'n fanwl yn ei gyfrol The Description of Penbrokeshire. (Ceir y testun mewn Saesneg diweddar yn George Owen, The Description of Pembrokeshire, gol. Dillwyn Miles [Llandysul, 1994]). Roedd Owen yn arglwydd cantref Cemais, ardal yr hanai teulu Dafydd ohoni, ac roedd ganddo gysylltiadau teuluol â llwyth Gwynfardd Dyfed, hynafiad Dafydd. Mae ei ddisgrifiad o'r cyffylog yn cynnwys sawl pwynt perthnasol i'r gerdd hon:
The woodcock, although he be not our countryman born, yet we must needs think him to be of some affinity to many of our country people by reason of the love and kindness he shows in resorting hither first of all, before other parts of Wales or England, and in more abundance than elsewhere, and staying longer with us than in any other place. And if I may in sport suppose a cause thereof, let it be, for that the people in general in this country are found to be more plain meaning, simple, harmless and farther from Machiavellian devices... This fowl being noted likewise for its simplicity (of some called foolery), it may be guessed it makes choice rather to converse among these people being nearest to its innocent plain and simple humour... (131)
Ystyrid y cyffylog yn ffôl am ei fod yn gymharol hawdd ei ddal, ac mae llu o gyfeiriadau at y gred honno i'w cael mewn testunau Saesneg o'r 16g a'r 17g, gw. Cocker a Mabey, op. cit, 215–16. Coffeir yr un nodwedd yn y dywediad Cymraeg 'Mor ffôl â'r cyffylog', ac mae'r cywydd hwn yn dibynnu'n sylweddol ar y gred honno hefyd. Roedd tair prif ffordd o ddal cyffylogiaid yng nghyfnod Dafydd ap Gwilym. Yn gyntaf, gellid eu hela â bwa a saeth. Ceir darlun trawiadol o'r arfer hwnnw mewn llawysgrif a elwir 'The Birds Psalter' (Caergrawnt, Fitzwilliam Museum MS 1–1954) sy'n deillio o orllewin Lloegr ac sy'n dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Yno gwelir y cyffylog yn llechu o dan goeden wrth i heliwr ddynesu ato gyda bwa a saeth â blaen llydan iawn iddi, sy'n cyfleu i'r dim natur 'bollt benfras' Dafydd ap Gwilym (ll. 21). Ceir atgynhyrchiad lliw o'r llun yn Cocker a Mabey, op. cit., 218; W. Brunsdon Yapp, Birds in Medieval Manuscripts (London, 1981), 145; ac ar wefan 'Medieval Imaginations' (http://www.english.cam.ac.uk/mi-sampler/genealogy2_noapplet.htm).
Yr ail ddull oedd gyda maglau. Gan fod tuedd gan y cyffylog i osgoi dringo dros goed a changhennau marw, byddai'r adarwr yn gosod rhwystrau o'r fath ar lawr y goedwig er mwyn cyfeirio'r aderyn at ei faglau, gw. Cocker a Mabey, op. cit., 215. Gellid gwneud y maglau hynny o rawn (ib. 212) ac mae'n bosibl mai at hynny y cyfeirir yn llinellau 29–34 y gerdd hon.
Y dull arall o hela oedd â rhwyd wedi ei gosod ar draws cocsut. Ceir cyfeiriad penodol at hynny yn y cywydd 'Y Frân' (sydd o bosibl yn waith Dafydd ap Gwilym), wrth i'r bardd erfyn am nawdd Mair i'r frân 'rhag llam cocsud' (163.22). Defnyddio cocsut oedd y dull mwyaf llwyddiannus, fel rheol, o ddal cyffylogiaid. Fel yr esbonia GPC 525, 'man agored neu lannerch mewn coed' oedd cocsut (sy'n fenthyciad o'r Saesneg cockshyt 'cockshoot', gair a geir gan George Owen). Wrth hela cyffylogiaid, 'fe'u gyrrid tuag at agoriad neu lannerch yn y coed a'u dal mewn rhwydi wedi eu hestyn ar draws yr agoriad'. Mae'n debyg mai meddwl am rwydi o'r fath yr oedd Dafydd pan alwodd y niwl yn 'Rhwyd adar y ddaear ddu' (57.18). Ceir disgrifiad manwl o helfa gocsut gan George Owen:
If any easterly wind be aloft, we shall be sure to have it a fortnight, and sometimes three weeks, before Michaelmas. And for plenty it is almost incredible, for when the chief time of haunt is, we have more plenty of that kind of fowl only than of all other sorts laid together. The chiefest plenty is between Michaelmas and Christmas, and in these three months it visits most houses. Their chief taking is in cockroads in woods, with nets erected up between two trees where in cock-shoot time (as it is termed), which is the twilight, a little after the breaking of day and before the closing of night, they are taken sometimes two, three or four at a fall. I have myself oftentimes taken six at one fall, and in one road at an evening taken eighteen, and it is no strange thing to take a hundred or six score in twenty-four hours if the haunt be good, and much more has been taken, though not usually. (131–2)
Y mae'r cywydd hwn yn cynnwys agwedd arall ar ffolineb y cyffylog nad yw Owen yn cyfeirio'n uniongyrchol ati. Wrth iddo rybuddio'r aderyn rhag yr heliwr, dywed y bardd: 'Na chudd er ei lais, na chae / Dy lygad ...' (llinellau 23–4). Cyfeiriad sydd yma at y gred fod yr aderyn hwn (fel yr estrys yn y dychymyg poblogaidd heddiw) yn cuddio'i ben ac yn cau ei lygaid gan feddwl na allai'r heliwr ei weld ef gan na allai yntau weld yr heliwr. Cyfeirir at y gred hon gan y bardd Saesneg Thomas Washbourne (1607/8–87): 'Or like the Wood-cock hide their heads, and then, / 'Cause they see none, think none sees them agen', gw. Divine Poems, written by Thomas Washbourne, Bachelour in Divinity (London, 1654), 1.
Mae ffolineb tybiedig yr aderyn yn hanfodol er mwyn gwerthfawrogi'r cywydd. Mae'r ffaith fod y bardd yn troi at aderyn enwog am ei dwpdra yn dangos nad oes ganddo fawr o obaith gyda'i gariad, ac mae ateb ymosodol a didostur yr aderyn 'ffôl' hwnnw yn bychanu'r bardd ymhellach. Mae'r tywydd gaeafol yntau'n cynrychioli diffyg cariad ac yn llunio cefndir addas iawn i fyfyrdodau'r bardd. Mae'r oerni'r tywydd i'w glywed hefyd yn oerni'r gariadferch, ac fel y dywed Gwyn Thomas, gall llinell fel 'Eres hyd y bu'n oeri' (llinell 47) fod 'yn cyfeirio at y ferch yn ogystal â'r tywydd' (HGDG 76).
Cynghanedd: croes 15 ll. (28%), traws 18 ll. (33%), sain 14 ll. (26%), seindraws 1 ll. (2%), llusg 4 ll. (7%), digynghanedd 2 (4%).
Cadwyd testunau mewn tair ffynhonnell gynnar, sef Llyfr Wiliam Mathew (Ll 6 a llawysgrifau Llywelyn Siôn), Llyfr Gwyn Hergest (Pen 49) a'r Vetustus (H 26, Ll 120 ag amrywiadau yn Pen 49). Ceir testun da yn Ll 6 (sy'n deillio o LlWM), a hwnnw a ddilynir gan amlaf. Er hynny, ymddengys ei fod wedi colli cwpled (ll. 15–16) sydd i'w gael yn ddwy ffynhonnell gynnar arall. Mae testun grŵp y Vetustus yn debyg iawn ar y cyfan, er bod peth amrywio yn nhrefn y llinellau a bod pedwar cwpled a geir yn LlWM yn eisiau (llinellau 11–12, 17–18, 35–6, 41–2). Cynrychiolir y grwp hwn gan H 26, Ll 120, LlGC 560, M 212 a Bl e 1 (mae'n debyg bod y ddwy olaf yn deillio'n uniongyrchol o H 26). Mae testun Wy 2 yn dra amrywiol ei natur. Ar y cyfan, mae trefn y llinellau yn debyg i grŵp y Vetustus, ond mae nifer o gwpledi ychwanegol. Ond mewn mannau, e.e. llinell 2, y mae'n nes at destun LlWM. Mae fersiwn LlGH yn debyg ar y cyfan i LlWM, ond ymddengys o'r nodiadau yn Pen 49 fod nifer o gwpledi'n eisiau. Mae'n debyg fod peth ôl trosglwyddo llafar ar y cywydd hwn.
1. tydy Ffurf amrywiol ar tydi, gw. GPC 3670. Dyma yw darlleniad Pen 49. Ond sylwer mai tydi a geir isod ll. 44.
ehediad Gall olygu naill ai 'y weithred o ehedeg' neu 'aderyn', gw. GPC 1184. Nodir yr enghraifft hon dan yr ail ystyr yn GPC 1184, a dyna'r ystyr a ffefrir gan Gwyn Thomas yn HGDG 76. Ond sylwer mai'r ystyr gyntaf a ffafriwyd ganddo yn ei gyfieithiad Saesneg (DGHP, 223).
tewdwrf Cyfeiriad at y sŵn a wneir gan y cyffylog wrth iddo godi i'r awyr: 'Escape-flight begins with sudden and audible burst of wing-beats' (BWP iii, 444).
2. taer gyffylog, lidiog lwrf Nid yw darlleniad grŵp y Vetustus ('Y cyffylog llidiog llwrf') yn rhoi cystal ystyr. Mae llwrf yn ffurf amrywiol ar llwrw yn yr ystyr 'trywydd, ôl, llwybr, ffordd'. Nodir enghraifft arall o llwrf o'r 14g. yn GPC 2236.
8. ar guert Benthyciad o'r S. covert neu'r Ffr. couvert yw cuert, gw. GPC 628. Gwelir ei fod yn digwydd yn aml yn yr ymadrodd ar guert 'under cover'. Un o ystyron covert yw lle sy'n cynnig lloches neu guddfan i anifeiliaid ac adar, gw. OED2 d.g.
16. ton Mae'r llawysgrifau'n gryf o blaid ton yn hytrach na tôn GDG. Mae glan y môr neu lan afon yn aml yn lleoliad pleserus yng nghanu Dafydd, a diau mai hynny a geir yma.
20. chwibanwr traglud Mae cyfieithiad Gwyn Thomas yn awgrymu mai cyfeiriad at yr aderyn yw hwn: 'You most persistent whistler' (DGHP, 223). Mae'r cyffylog yn gwneud sŵn tisian y gellid efallai ei alw'n chwiban o fath, ond yn y gwanwyn a'r haf yn unig y gwna'r sŵn hwnnw (BWP iii, 453–4). Ar y llaw arall, byddai adarwyr yn aml yn chwibanu er mwyn denu adar i rwydi, gw. Thomas Usk, The Testament of Love, gol. R. Allen Shoaf (Kalamazoo, MI, 1998), 147: 'Lo, the birde is begyled with the mery voice of the foulers whistle. Whan a woman is closed in your nette, than wol ye causes fynden...' (darn o'r 14g. sy'n cymharu merch ag aderyn). Ond go brin y gellid denu cyffylog fel hyn, a gwell felly gymryd chiwbanwr i olygu 'adarwr' yn gyffredinol.
21. Llinell ddigynghanedd.
23–4. Na chudd er ei lais, na chae / Dy lygad Gw. y nodyn cefndirol uchod.
24. gloywgae Mae Gwyn Thomas yn ei aralleirio'n 'cylch disglair' (HGDG 76) ac yn ei gyfieithu'n 'shining crown' (DGHP, 223). Mae gan cae nifer o ystyron yn ôl GPC 382: 'gwrych, ... clawdd, ffens; maes parc, tir wedi ei amgáu â gwrych; ffig. cylch, atalfa, rhwystr'; 'gwäeg, bwcl, tlws', 'talaith, gwisg am ben, coronbleth, garlant, coler'; 'rhwymyn, gwregys'. Mae mwy nag un o'r rhain yn bosibl yma, ond mae'n debyg fod Thomas yn gywir wrth ddeall hyn yn gyfeiriad at ben yr aderyn. Ar draws ei ben mae cyfres o fariau trwchus sy'n nodwedd ddigon anghyffredin ac sy'n ei wahaniaethu oddi wrth adar tebyg megis y gïach.
27. o-berth-i-berth Ar aceniad yr ymadrodd hwn, gw. isod 28n. Pan fo'r cyffylog yn hedfan rhag perygl, nid yw gan amlaf yn mynd yn bell: 'Escape-flight ... usually covers no great distance' (BWP iii, 444).
28. o-lwyn-i-lwyn Mae'r gynghanedd (sef cynghanedd sain, mae'n debyg) yn mynnu bod yr acen yn syrthio ar yr i yma. Gellid darllen O berth i berth yn ll. 27 uchod, gan nad yw'r aceniad yn effeithio ar y gynghanedd. Er hynny, mae'n debyg y dylid acennu'r ddau ymadrodd fel ei gilydd.
30. meigoed Fel y nodir yn GDG 530, 'Geill olygu coed Mai', ond mae hynny'n annhebygol o gofio mai yn ystod y gaeaf y lleolir y gerdd hon. Gan hynny, gwell derbyn yr ail ystyr a roddir yno, sef 'coed bychain', o mei- 'lled, hanner' a coed. Dyna'r ystyr a gynigir yn GPC 2409, lle y cyfeirir at GDG 68.42 Mai goedydd (sef 57.42 meigoedydd, gw. n.) fel enghraifft arall bosibl. Cf. hefyd meigoll 'colled fechan' yn GCBM i 11.10.
31. Na fydd... / Wrth Ar bod wrth yn yr ystyr 'cydymffurfio â, ymostwng i', gw. T. H. Parry-Williams, 'Bod wrth', B i (1922–3), 106 a GPC 3737.
cryngae Nis ceir yn GPC. Mae Gwyn Thomas yn ei aralleirio'n 'cylch bach' (HGDG 76) ac yn ei gyfieithu'n 'little loop' (DGHP, 223). Nis ceir yn GPC, ond mae'n amlwg yn gyfuniad o crwn / cryn a cae. Ar ystyr cae gw. uchod 24n, ac ymddengys mai'r ystyron 'garlant, coler' neu 'rhwymyn, gwregys' a ddilynir gan Thomas. Ond mae Cryngae neu Cryn-gae yn ddigon cyffredin fel enw lle (mae'n enw ar un o gartrefi Llywelyn ap Gwilym), a chan hynny, ymddengys ei fod yn gyfeiriad at ryw nodwedd dopograffig. Tybed a yw'r ystyr yn debyg i ystyr y gair cocsut? Gw. ymhellach y nodyn cefndirol uchod.
32. r wreiddgoll.
34. Â'th dduryn cryf wyth rawn crin Dyma ddarlleniad GDG (sy'n seiliedig ar grŵp y Vetustus). Darlleniad LlWM (a LlGH mae'n debyg gan na nodir unrhyw amrywiadau yn Pen 49) yw 'Â thrwyn cryf wyth rownyn crin'. O blaid darlleniad grŵp y Vetustus y mae'r ffaith fod 'Â'th dduryn' yn anos darlleniad na 'Â thrwyn', ac y gellir yn hawdd esbonio'r ail fel canlyniad camglywed y cyntaf (gan fod yr -th a'r dd- yn cymathu i ateb yr -th- yn ail hanner y llinell). Er hynny, nid yw 'Â'th dduryn' yn ddarlleniad anodd iawn, gan y ceir duryn uchod yn ll. 12. Mae'r darlleniad 'Â thrwyn...' yn bosibl felly. Gellid hefyd ddadlau bod wyth rownyn yn ymadrodd mwy naturiol nag wyth rawn, gan mai ystyr dorfol sydd i rhawn fel rheol. Mae darlleniad Wy 2 yn cynnwys duryn a rhawnyn, gan wneud y llinell yn rhy hir o sillaf. Gall fod y llinell hon yn cyfeirio at y maglau a ddefnyddid i ddal y cyffylogiaid, neu at y rhwydi. Gellid gwneud maglau a rhwydi o rawn, gw. Cocker a Mabey, op. cit., 212, a chyfeiriad Guto'r Glyn at 'rwyd rawn', GGl2 190 (LXXI.38).
36. trwyddau Ffurf amrywiol ar trwyddew 'taradr, gwimbill, ebill', gw. GPC 3632. Digwydd y ffurf trwyddew yn y cywydd arall i'r cyffylog: 'Trwyddew tail a rhew y rhawg' (53.46). Mae'n amlwg mai'r odl a oedd yn pennu pa ffurf a ddefnyddid. Tebyg mai cyfeirio at arfer y cyffylog o fwydo gyda'i big yn nwfn yn y pridd a wna'r ddwy enghraifft, er y gall fod yr enghraifft hon yn cyfeirio at ei arfer o hedfan drwy adwyau mewn perthi neu lwyni coed, fel yr awgrymir yn HGDG 77. Byddai adarwyr yn torri adwyau yn y coed a gosod eu rhwydi ar eu traws, gan wybod bod y cyffylog yn debyg o hedfan iddynt, gw. Cocker a Mabey, op. cit., 216.
37. rhiwallt Nis ceir yn GPC, ond mae'n amlwg ei fod yn tarddu o rhiw ac allt, a 'llethr goediog' yw'r ystyr debycaf. Ond mae posibilrwydd mai enw lle ydyw (sylwer ar ddarlleniad grŵp y Vetustus 'yn rhiwallt'). Nodir yn WATU 188 y gall Rhiwallt fod yn amrywiad ar Rhiwlallt fel y'i ceir yn enw'r cwmwd Swydd Rhiwlallt yng nghantref Maelienydd. Ond sylwer mai Rhiwlallt yw'r ffurf a geir bob tro gan Lewys Glyn Cothi (GLGC 672). Ni nodir y ffurf Rhiwallt yng Nghronfa Ddata Enwau Lloeoedd Archif Melville Richards, er bod sawl enghraifft o'r enw Rhuallt, a fyddai'n gweddu yma o ran odl a chynghanedd.
39. delw Gybi Cyfeiriad at ddelw o Gybi Sant. Nid oes unrhyw un wedi goroesi, er y coffeir Cybi mewn sawl man yng Nghymru, gw. WCD 159–61 a cymh. 8.3n a 97.27n. Dethlid gŵyl Cybi ar y pumed neu'r wythfed o Dachwedd. Dyma gyfnod dechrau'r gaeaf pan fyddai'r cyffylogiaid yn cyrraedd Cymru, ac amseriad tebygol y gerdd hon.
42. unig Gelwir y cyffylog yn 'typically solitary' yn BWP iii, 449. Ond gall unig hefyd olygu 'unigryw', gw. GPC 3709.
43. Llinell ddigynghanedd.
47. Eres hyd y bu'n oeri Darlleniad Ll 6 (o LlWM) yw 'Eres hir y bu'n oeri', a darlleniad grŵp y Vetustus yw 'Eres y bûm yn oeri'. Sôn am y ferch y mae'r bardd yn y rhan hon o'r gerdd, felly go brin y gellir derbyn darlleniad grŵp y Vetustus. Mae darlleniad LlWM 'Eres hir...' yn chwithig braidd, a cheir yr ystyr orau o ddarllen 'Eres hyd...' (o amrywiadau Pen 49, ac felly mae'n debyg o LlGH).
53–4 "Pren yng nghoed"... / "Arall â bwyall biau" Dihareb a nodir yn Llyfr Coch Hergest: 'Prenn yg koet arall bieu' (J 111.1081.8).
53. mawroed Fel y nodir yn GDG 530, 'Hoed, nid oed, yw'r ail elfen yn ddiamau'.