Moliant Llywelyn ap Gwilym
Llyfr dwned Dyfed, mae'n galw i windai
yn ardal Llywelyn;
gwerddon, gadewch i gyfarchiad pob dyn fynd,
4 lle llys cynnes i lu, i Emlyn.
Llyn i barc Emlyn, ffrwd hyd [afon] Teifi,
a'r tafarndai ym mhob lle,
[boed iddo] rwystro cywilydd, [boed iddo] ladd ei elyn,
8 lle bo ergyd gordd, ffordd anrhydedd.
Ffordd anrhydedd, gwaywffon fawr yn taro'r rhai aruchel, cythruddo
Lloegr a'r Alban yn amlwg,
lle dêl yr holl fyd sy'n tynnu,
12 llaw hael, ac enw Llywelyn.
Fe fynn Llywelyn ynni a grym i mi,
mab llawen Gwilym, yn rheolwr hardd a chadarn,
llai o eiriau dig i'n digio na thaeog,
16 gwnaeth lywodraeth a rhoddodd faeth i mi.
Parodd adeiladu, addurnodd, i gynnal y rhai di-warth,
llys yn uchelfan y beirdd, mae'n lle i rai hardd,
lle y mae'n arferol i gael gorchudd a dillad ysblennydd,
20 llety nad yw byth yn cau, [lle] o groeso bob amser.
Lle y mae gwin yn arferol a gweini cyrn yfed,
lle bywiog, llwybr tefyrn, lle byrlyma [afon] Teifi.
Lle braf, diogel, rhyfeddol ei olwg,
24 lle mae ymwelwyr y byd yn cyfeddach heb oedi.
Lle mawr yn brysur yn llenwi corn yfed,
lle mae gwin rhwydd a chryf i feddwi.
Lle o'th nerth, Dduw hardd, yr af fi eto,
28 lle llawn ei ystafelloedd, llenwi llestri aur.
Llys gwr aur, llu o seiri a'i gwnaeth yn wych,
caer liwgar yn ddisglair [â] chalch, [a] llusernau yn
llosgi.
[Y lle] llawnaf, di-nam, [yn llawn o] ddaioni cwrtais,
32 arlwy parod, gwlad ffrwythlon, a dyfal glodfori.
Gwlad hygyrch, cariad Gwri Wallt Euryn,
Llywelyn gryf sy'n llywodraethu drosti.
Arweinydd, ymerawdwr stiwardiaid Edelffled,
36 rheolwr ydyw ar Ddyfed, yn tawelu llawer [o ddynion].
Cynheiliad llwyth, mae ei dylwyth yn ymestyn hyd [afon]
Gwili,
[un] addfwyn, [un] fel barnwr, tebyg i Bryderi.
Llaw ddisglair yn rhoi aur i westeion, gwaywffyn yn
deilchion,
40 llid Pyll, arf doredig, ergyd Rhodri.
Cadarn ei waywffon, gwayw Beli mewn brwydr,
ysbryd yn union fel Llyr, gwych a chadarn, dewrder
llew.
Trysor llawen, a'n harglwydd yn achosi ffyniant,
44 rhoddodd lawenydd am oes i mi.
Llywelyn ffyrnig i dorri byddin,
perchen aur coch â llaw ffodus sy'n gwybod sut i roi.
Llwydda, na leiha, Un a Thri o hyn allan,
48 bydded i'w alluoedd fod yn llwyddiannus, a Duw yn ei
arwain.