1 Tydi hydyb y tewdwrf
2 y cyffylog llidiog llwrf
3 manag edn meinwag adain
4 mae dy chwyl mad wyd a chain
5 ffrest a glew y mae'n rhewi
6 ffo ydd wyf myn fy ffydd i
7 Ar hynt or lle bum yr haf
8 ar guert rhag eiry gaiaf
9 Oer a dig yw'r eiry du
10 Ai luwch ni ad i'm lechu
13 dyred na ddywed ddeu-air
14 lle mae a garaf lliw Mair
15 lle gwiw-fraisc ger llaw gofronn
16 lle clywir tês lle claer tonn
19 o thry ith ogylch iaith ddrud
20 treiglwr chwiban-wr traglud
21 A bollt ben-fras a bwa
22 ath weled wr ith wâl da
23 Na chudd er ei lais na chae
24 dy lygad dann dy loew-gae
25 heda a bryssia rhac brad
26 a thwyll ef oth ddull hoewfad
27 O berth i berth drafferth drwch
28 O lwyn i lwyn anialwch
29 Glân dy dro o glyn dy droed
30 mewn magl y min y neugoed
31 Na fydd ry lonydd dy lam
32 Wrth gryngae croglath gringam
33 Tynn yn lew oddiam d'ewin
34 ath dduryn cryf wyth rawn crîn
37 descyn heddiw yn rhiwallt
38 îs ty gwenn ys teg ei gwallt
49 maneg edn meingyw hoednwy[ ]
50 Yscil serch ysceulus wyf
39 A gwybydd er delw Gybi
40 ai cywir meinir i mi
44 Ac ero fab arab draw
43 ni beiddiaf dy rybyddiaw
45 Rhywyr rhac of y rhewynt
46 Y gwely hi gwyl o hynt
47 Eres y bum yn oeri
48 Aeth arall hoewgall a hi
51 Gwir a gant gwarant gwiwr[ ]
52 Y rhai gynt ar y rhyw gas
53 Pren yng-hoed mowr-oed yw'r ma[ ]
54 Arall a bwyall biau
dd' ap Gwilym