â â â Y Cyffylog
1â â â A fu ddim, ddamwain breiddfyw,
2â â â Mor elyn i serchddyn syw
3â â â Â'r gaeaf, oeraf eiryoed,
4â â â Hirddu cas yn hyrddio coed?
5â â â Aruthr ei grwydr rhwng dwydref,
6â â â Oer o was, tad eiry yw ef.
7â â â Ni bu un na bai anawdd
8â â â Gantho-ai hawdd cuddio cawdd?-
9â â â Mewn eiry ermyn aros,
10â â â Y rhyn ôd, a rhew ar nos.
11â â â Haws oedd mewn castell celli
12â â â Ar hafnos ei haros hi
13â â â Gan glywed digrifed tôn
14â â â Y gog las ddigoeg leision.
15â â â Annhebig mewn coedwig Mai,
16â â â A chyffur oedd o chaffai,
17â â â I rodio, tro treigl anûn,
18â â â Tan fargod to ty f'eurgun.
19â â â Perhôn drannoeth, anoethraid,
20â â â Ym ei chael, amau o chaid,
21â â â I dyddyn gweirdy diddos,
22â â â Ofn oedd yng ngaeaf, y nos,
23â â â Na ddigonai, chwai chwedlfreg,
24â â â Engyn ar y dynyn deg.
25â â â Glân ymddiddan ydd oeddem,
26â â â Glud gwyn, mi a gloywdeg em.
27â â â Gwnaeth fraw, frychleidr anghyfrwys,
28â â â A dychryn i'm gloywddyn glwys,
29â â â Col gylfinferf goferfwyd,
30â â â Y cyffylog llidiog llwyd.
31â â â Edn brych, dilewych o liw,
32â â â O adar gaeaf ydiw.
33â â â Modd y gwnaeth, nid maeth fy myd,
34â â â Wrth ben bagl wrthban bawglud,
35â â â Cychwyn yn braff ei drafferth,
36â â â Adain bôl, odd dan y berth
37â â â A neitio hyd pan ytoedd
38â â â Mewn perth ddu. Nid o'm porth oedd.
39â â â Gan faint trwstgrwydr ar lwydrew
40â â â Dwy ffilog y taeog tew,
41â â â Tygesym ddwyn, ddeugwyn ddig,
42â â â Trist oeddem, mae trwst Eiddig,
43â â â Golesg frys rhwng llys a llwyn,
44â â â Gwylltruthr peisfrych gwahelldrwyn.
45â â â Treiddiai yn ffrom wrth domawg,
46â â â Trwyddew tail a rhew yrhawg.
47â â â Aruthr ei chwedl hocedlaes
48â â â A mul ger buarthdail maes.
49â â â Ni wyr yn llon ar fron fry
50â â â Na llais aml na lles ymy,
51â â â Na cherddau, medd gwych ordderch,
52â â â Drwy nen y llwyn er mwyn merch
53â â â Ond arwain, durwaith meinffrom,
54â â â Y bêr du a bawr y dom.
55â â â Yr edn brych â'r adain brudd,
56â â â Bribiwr a'i fagl, heb rybudd
57â â â Y caffo, tro treigl gochfrych,
58â â â Bolltod braff, mab alltud brych.