Y Cyffylog
A fu unrhyw beth o gwbl, amgylchiad rhwng-byw-a-marw,
mor elyniaethus i wr llawen [wedi ei feddiannu gan]
serch
â'r gaeaf hirfaith a thywyll a chas sy'n ysgwyd y
coed?
4 Oer iawn [yw] oed [â merch yng nghanol] eira.
Enbyd yw ei siwrnai rhwng dwy dref,
gwasanaethwr oer, tad yr eira yw ef.
Ni bu neb na châi drafferth
8 (ai hawdd yw celu trallod?)
i aros yn yr eira am [ferch wedi ei gwisgo mewn] ffwr gwyn,
yr eira oerllyd [hwn], ac yn y rhew fin nos.
Yr oedd yn haws aros amdani
12 ar noson o haf yng nghastell y coed
a chlywed sain hynod ddymunol
y gog lwyd a'i chaniadau diymhongar.
[Mae cerdded] yn y llwyni ym mis Mai
16 (ac fel hyn y byddai hi pe câi unrhyw un [y
profiad])
yn wahanol i gerdded, taith [a] hynt heb gwsg,
o dan fondo to cartref fy rhiain bryd golau.
Pe digwyddai drannoeth [= ar ôl yr haf], cytundeb
rhyfeddol [fyddai hynny],
20 i mi ei chael, [mae] amheuaeth a fyddai modd ei chael,
mewn adeilad cysurus [megis] ty gwair,
fin nos, ofni y byddwn yn y gaeaf
na fodlonai'r llanc y lodes hardd,
24 [bydd] cwyn fuan [oherwydd y] diffyg.
Yr oedd y ddau ohonom yn ymddiddan yn frwd,
cwyn daer, myfi a'r lodes ddisglair [megis] gem.
Parodd fraw, y lleidr brychiog a thrystiog,
28 a dychryn i'm cariad disglair a hardd,
pig aflesol, pig y mae bwyd yn diferu trosto,
y cyffylog garw a llwyd [ei wedd].
Aderyn brychiog heb ddisgleirdeb yn perthyn i'w wedd,
32 [un] o adar tymor y gaeaf ydyw.
Dyma'r hyn a wnaeth, nid un sy'n ymgeleddu fy nghariad
[ydyw],
[y creadur mewn] hugan sy'n llawn baw ar ben [coesau megis]
baglau,
dechrau [creu] helbul yn egnïol,
36 di-raen [yw ei] adenydd, o dan y berth
a llamu [wedyn] nes ydoedd
yng nghanol perth dywyll [arall]. Nid fy nghynorthwyo yr
oedd.
Oherwydd maint swn symudiad dwy adain
40 y cnaf boliog ar y llwydrew,
tybio a chredu a wnaeth y ddau ohonom, cwyn arw i'r naill fel y
llall,
aflawen oeddem [hefyd], mai swn Eiddig [ydoedd],
rhuthr un go eiddil [wrth ddod] o'r cartref i'r coed,
44 [yr un] brychiog ei wisg a'i drwyn fel nodwydd [ac] ar ras
wyllt.
Byddai'n pigo yn angerddol wrth domen o garthion,
[yr] ebill [hwn], [yng nghanol] y dom a'r rhew yn barhaus.
Mae ei swn twyllodrus a maith yn arw
48 ac yn ynfyd gerllaw carthion y buarth yn y cae.
Ar y llethr acw ni all ganu yn llon ac yn hirfaith
ac [nid oes ganddo] fudd [i'w gynnig] i mi
na chaniadau drwy frig y coed
52 er mwyn [llawenhau] merch, yn ôl y gariadferch wych,
ond cludo [yn hytrach], offeryn [caled fel] dur [sy'n] fain a
garw,
[big megis] gwaywffon ddu sy'n pori yng nghanol y dom.
Yr aderyn brychiog a chanddo adenydd tywyll,
56 cnaf a'i rwystrau, yn ddirybudd
y bydded iddo dderbyn, taith [a] hynt [creadur] coch a brychiog,
ergyd rymus gan saeth, y creadur brychiog [sy'n] alltud.