Lle mae gwin ffraingc ar faingc fancr bali ddodrefn
Llefn geir llysdrefn ac aurllestri. (Pen 49)
Mae'n bosibl bod y llinell gyntaf yn ddilys, ond mae'r ail yn amlwg yn
fersiwn carbwl o l. 28. (Lluniwyd toddaid newydd yn GDG trwy gyfuno'r ll.
gyntaf â 28, gan adael y toddaid blaenorol yn brin o ail linell.) Ac yn
fersiwn Gw 25 etc ceir y toddaid hwn (= GDG 12.47-8) yn lle 45-6:
Llywelyn derwyn i dorri - llinon,
Llawfron y dynion a'u daioni.
Mae'r llinell gyntaf yn union yr un fath â 45 hyd at y brifodl,
ond gan nad oedd y naill doddaid na'r llall yn Llyfr Gwyn Hergest mae'n anodd
penderfynu rhwng tystiolaeth fersiwn Mostyn o blaid 45-6 a thystiolaeth
fersiwn Gw 25 o blaid y llinellau uchod. Mae llawfron
yn sicr yn air hynafol, ac fe ddichon fod yr ail linell yn perthyn i doddaid
dilys arall, neu ar y llaw arall fe ddichon fod y ddwy linell yn perthyn i
gerdd wahanol.1. Anodd penderfynu ar gystrawen y llinell hon. Cymerir mai
trosiad am Lywelyn yw llyfr dwned - yn llythrennol
llyfr gramadeg (o enw'r gramadegydd Lladin Donatus), ac mai berf 3 un. pres. yw
dyfyn, 'geilw'. Ond awgrymodd Parry (GDG 445) y gellid
deall llyfr dwned yn yr ystyr, 'rheol, arfer', a bod
dyfyn yn ferfenw, gyda'r ergyd mai arfer Dyfed yw galw
ar bobl mewn gwindai i ddod i randir Llywelyn.5. Sylwodd Parry (GDG 1 xxviii)
fod lle i gredu bod y Ddôl-goch yn sefyll ar ddarn o dir a elwir Parc
Coch heddiw, lle mae afon Bargod yn llifo i Deifi, a bod melin ddwr ar y
tir ar un adeg.10. Prydyn Yr Alban (cymh. GIG I.26).
Tybed a fu Llywelyn yn ymladd gydag Edward III yn yr Alban yn y 1330au?11. Ceir f heb ei hateb a dwy
d yn ateb un yn ail hanner y llinell. Mae'n debyg mai
ymgais i gywiro'r gynghanedd yw fersiwn Huw Cae Llwyd o'r llinell yn Pen 189,
'lle del y byd oll a dynn'.15.Disgwylid i gaethion siarad yn ostynedig, a phwynt y
llinell hon, felly, yw bod Llywelyn yn siarad hyd yn oed yn fwy gostyngedig.
Sylwer fod lle i LlGH yn cefnogi llai fersiwn Gw 25 yma yn erbyn llsgrau Mostyn. Mae'n debyg
mai Ba 6 oedd ffynhonnell Lle cymyrrawdd yn BDG,
darlleniad a gadwyd yn GDG.23. aserw Ar yr ystyr 'diogel' gw. GPC
220 a CBT I, 212 (9.14n).28. anarlloestrefn Bôn yr elfen
gyntaf yw arlloes , 'gwag', cymh. 6.56 (= GDG 13.56),
'A'r Llystyn yn arlloesty'.29. eurwr Mae'r tri fersiwn yn
rhanedig yma, gyda hwn yn fersiwn Mostyn, erwyr yn
fersiwn Gw 25, a llysauddwfr a wnaeth llys eiddi yn
Pen 49. Er bod y darlleniad olaf yn amlwg yn wallus, mae'r
eu yn yr ail sillaf yn cefnogi'r darlleniad hwn. Derbyniwyd
erwyr yn GDG, gair sy'n cynnwys yr elfen
hwyr, ac sy'n golygu 'hwyr, araf; tawel, tyner' (GPC
1239). Digwydd y gair yn 'Yr Haf' (GDG 24.7), 'Ac awyr erwyr araf', ac mae'r
ystyron 'tawel, tyner' yn addas iawn yno, ond nid felly yma i ddisgrifio llys.
Cymh. GLlGMH 7.34, lle defnyddir eurwr am Dduw.33. Gwri Wallt Euryn yr enw a roddodd
Teyrnon a'i wraig ar Bryderi yng nghainc gyntaf y Mabinogi, gw. PKM 23.
Cyfeirir at Bryderi eto yn ll. 38 isod.35. Edelffled ffurf Gymraeg ar
Aethelfrith, brenin Northumbria yn y 7fed ganrif, gw. G 438. Cyfeirir at
'cedernid Edelffled' mewn englyn i Syr Rhys ap Gruffudd yng Ngramadeg Einion
Offeiriad, gw. GEO tt. 40-1. Ymgais i wneud synnwyr o enw anghyfarwydd oedd y
darlleniad hyd Elfed a dderbyniwyd yn GDG.37. Gwyli afon Gwili yn sir
Gaerfyrddin.40. Pyll un o feibion Llywarch Hen,
gw. CLlH 5-7. Rhodri sef Rhodri Mawr, brenin
Gwynedd yn y 9fed ganrif.41. Beli Ar y cymeriad chwedlonol Beli
Mawr mab Manogan gw. TYP 3 288-9. 42. Llyr Ar Llyr
Llediaith, tad Bendigeidfran, gw. TYP 3
418-21.