â â â Y Rhew
1â â â Deincryd mawr o led ancrain
2â â â Fu'r mau gerllaw'r muriau main
3â â â Neithiwyr yng nghanol noethwynt
4â â â A rhew, och mor oer fu'r hynt!
5â â â Gnawd gaeafrawd, gnwd gofron,
6â â â Gerllaw ty hoen gorlliw ton.
7â â â Gwir yno fu, gwae'r unig
8â â â Ddyn a gyflawner o ddig.
9â â â Gofyn, o'i glud gofion glân,
10â â â Am y mur o'm em eirian:
11â â â 'Ai diddig annwyd oddef?
12â â â Ai dyn wyd, er Duw o nef?'
13â â â 'Dyn oeddwn heddiw liw dydd
14â â â Bydol, gwedy cael bedydd;
15â â â Ac ni wn o'm pwn poenglwyf
16â â â Weithian, byth eirian, beth wyf.'
17â â â Cwympo ar draws, dygn naws dioer,
18â â â Clwyden o iâ caledoer.
19â â â Yng ngeirwferw dwfr, ing arfoll,
20â â â Y syrthiais, ysigais oll.
21â â â Pan dorres, wael eres wedd,
22â â â Plats, gron gledr dwyfron, dyfredd,
23â â â Pell glywid o'r pwll gloywia
24â â â Garm a bloedd; garw y mau bla:
25â â â Gweau, anaelau o nych,
26â â â Gleision mal wybr goleusych.
27â â â Golwg bwl amlwg blymlawr,
28â â â Gwydr ddrychau, marl byllau mawr.
29â â â Certh eu llun, carthennau llaid,
30â â â Cleddiwig lithrig lathraid.
31â â â Weithian gwaeth yman ymy
32â â â Nog yn y fron, gan iâ, fry;
33â â â Bygwth y mae'r gloyw bigau
34â â â O'r bargawd y meingnawd mau,
35â â â Cryn hoelion, ddiferion farn,
36â â â Cyhyd â rhai og haearn.
37â â â Pinnau serthau pan syrthynt,
38â â â Pob un oll, pibonwy ynt.
39â â â Syniodd arnaf eisiniaid
40â â â Sildrwm, gwewyr plwm ger plaid,
41â â â Cyllyll o rew defyll dioer,
42â â â Newyddlif yn niweddloer,
43â â â Berwblor, rhewedig boerbla,
44â â â Bore oer i'r berau iâ.
45â â â Gwir mae rhaid, garmau rhydew,
46â â â Gochel arfau rhyfel rhew.
47â â â Ys gwae fi rhewi ar hynt
48â â â Ysgillwayw drwg asgellwynt.
49â â â Ys gwn nad gwell, feithbell farn,
50â â â Ysgidiau rhag ias gadarn,
51â â â Nwyf glwyf glau ferw ferwinwaed,
52â â â Nog na bain' am druain draed.
53â â â Mi yw'r gwr mawr a guria
54â â â Mwyn a ddoeth i'r mynydd iâ,
55â â â Eto a welir, hir hun,
56â â â Olwg dost ar ei eilun,
57â â â Oherwydd tranc difancoll,
58â â â Yn wyw iawn ac yn iâ oll.
59â â â Ysgorn arnaf a gafas
60â â â Ysglem glew o'r crimprew cras.
61â â â Ys glyn fal glud, drud y dring
62â â â Ias greulon, fal ysgrowling.
63â â â Gan na chaf, geinwych ofeg,
64â â â Le mewn ty liw manod teg
65â â â Yn ôl hawl, ynial helynt,
66â â â Oedd raid ym, bei caid bai cynt,
67â â â Tes gloyw tew, twysgliw tywyn,
68â â â A haul a ddatodai hyn.