Y Rhew
Cryndod dannedd mawr a fu arnaf oherwydd lled-orweddian
gerllaw'r muriau cerrig
neithiwr yng nghanol gwynt noeth
4 a rhew, och mor oer fu'r hynt!
Arferol yw taith aeafol (cnwd [o eira ar] y llethr)
gerllaw ty [yr un â] gwedd lliw ton.
[Mae'n] wir [mai] yno y bu, gwae'r
8 dyn unig a fo'n llawn o ddig.
Gofyn[nwyd imi], oherwydd ei hatgofion cyson glân,
gan fy ngem ddisglair o'r ochr arall i'r mur:
'Ai pleserus dioddef annwyd?
12 Ai dyn wyt ti, er Duw o['r] nef?'
'Dyn bydol oeddwn heddiw liw dydd,
wedi cael bedydd;
ond ni wn oherwydd fy maich sy'n achosi clwyf poenus
16 yn awr ([un] gyson ddisglair) beth ydwyf.'
Cwympo [a wneuthum] ar draws (naws dygn yn sicr)
clwyd o iâ caled ac oer.
Ym merw tonnau dwr (poen cyfamod)
20 y syrthiais, ysigais yn llwyr.
Pan dorrodd (golygfa ryfedd a gwael)
platiau (cledr gron mynwes) [y] dyfroedd,
yn bell y clywid o'r pwll o iâ gloyw
24 gri a bloedd; garw [oedd] fy mhla i:
gweadau (nychdod dolurus)
gleision fel awyr olau a sych.
Golwg bwl [a oedd ar y] llawr amlwg [fel] plwm,
28 drychau o wydr, pyllau marl mawr.
Ofnadwy [oedd] eu llun, carthenni o laid,
cloddfa lithrig ddisglair.
Yn awr [mae'n] waeth yma imi
32 o ran iâ nag ar y bryn uchod;
y mae'r pigau gloyw yn bygwth
fy nghnawd main o'r bargod,
hoelion mawr (ddiferion o feirniadaeth)
36 cyhyd â rhai og haearn.
Pinnau unionsyth a gwag pan syrthient,
pob un yn llwyr, pibonwy ydynt.
Syllodd rhuchion
40 ceirch trymion arnaf, gwaywffyn o blwm ger mur,
cyllyll o defyll o rew heb amheuaeth,
newydd eu hogi yng nghyfnod olaf y lleuad,
plorynnod byrlymus, pla o boer rhewedig,
44 bore oer ar gyfer y cigweiniau iâ.
[Mae'n] wir mai rhaid (gwaeddiadau cyson iawn)
gochel [rhag] arfau rhyfel rhew.
Gwae fi rhewi ar hynt
48 gwaywffon o ysgall gwynt drygionus o'r ochr.
Gwn nad gwell (barn faith a phell)
[yw gwisgo] esgidiau rhag ias gadarn
(clwyf o nwyd, gwaed cyflym a byrlymus wedi merwino)
52 na phe na fyddent am draed truain.
Mi yw'r gwr mwyn sy'n dihoeni'n fawr
a ddaeth i'r mynydd iâ
[ac] a welir fyth (cwsg maith,
56 [â] golwg wael ar ei wedd
oherwydd tranc ebargofiant)
yn wywedig iawn [ac] yn iâ oll.
Dirmyg arnaf a roes
60 ysgyren gadarn o'r rhew crimp a chras.
Mae'n ludiog fel gliw, yn feiddgar y dringa
ias greulon, fel glud.
Gan na chaf (bwriad cain a gwych)
64 le yn nhy [y ferch o] liw eira mân teg
yn ôl hawl (helynt anial),
byddai'n rhaid imi [gael] (pe ceid [hynny], bydded [yn] fuan)
tes gloyw trwychus (llifeiriant o liw tywyniad)
68 a haul a fyddai'n peri meirioli hyn.