â â â Caru yn y Gaeaf
1â â â Gwae a garo, gwag eiriawl,
2â â â Eithr yr haf, mae'n uthr yr hawl,
3â â â Wedy'r unnos am dlosferch
4â â â A gefais i, mau gof serch,
5â â â Y gaeaf, addefaf ddig,
6â â â Dulwm wedy'r Nadolig
7â â â Ar eiry, oer yw'r arwydd,
8â â â Y rhew a'r pibonwy rhwydd.
9â â â Difar hwyl, fawr ddisgwyl farn,
10â â â Dyfod yn frwysg o'r dafarn
11â â â I geisio, mawr ferw fu'r mau,
12â â â Gweled serchogddyn golau.
13â â â A phan ddeuthum, gwybûm ged,
14â â â Perygl ym, garllaw'r pared,
15â â â Tew oedd tan frig y to oer
16â â â Rhywlyb bibonwy rhewloer.
17â â â Hyfedr i'm safn y dafna,
18â â â Rhwysg oer, chwibenygl rhisg iâ;
19â â â Canhwyllau, defnyddiau dig,
20â â â Prys addail, Paris Eiddig;
21â â â Disglair gribin ewinrhew,
22â â â Dannedd og rhywiog o'r rhew;
23â â â Dagrau oer, dagerau iâ,
24â â â Cofus o ddurew cyfa.
25â â â Gwybu fy ngwar, digar don,
26â â â Gloes y gwerthydydd gleision.
27â â â Gwneuthum amnaid dan gnithiaw
28â â â Yn llaes ar ffenestr â'm llaw.
29â â â Cynt y'm clybu, bryd cyntun,
30â â â Gerwin fodd, y gwr no'r fun.
31â â â Golinio rhiain feinloer
32â â â A wnâi â'i benelin oer.
33â â â Tybio bod trwy amod rhai
34â â â Meinwas yn ceisio mwnai.
35â â â Codi a wnâi'r delff celffaint
36â â â O'i wâl ei hun, awel haint,
37â â â Llafar ddigwas anrasol,
38â â â Llefain o'r milain i'm ôl.
39â â â Dug am fy mhen, gwaith enbyd,
40â â â Drwy fawr gas y dref i gyd.
41â â â Syganai hwn, gwn ganllef,
42â â â 'Llyma'i ôl a llym yw ef'.
43â â â Rhoi cannwyll Fair ddiweiroed
44â â â Yn ael rhych yn ôl fy nhroed.
45â â â Yna ciliais, drais draglew,
46â â â Ar hyd y du grimp a'r rhew.
47â â â Cyrchais i'r bedwlwyn mwynaf
48â â â Ar hynt, a'm lloches yr haf.
49â â â Tybiaswn fod, clod cludreg,
50â â â Y tyno dail a'r to'n deg,
51â â â A mân adar a'm carai
52â â â A merch a welswn ym Mai.
53â â â Yno nid oedd le unoed
54â â â -Llyna gawdd!-mewn llwyn o goed,
55â â â Nac arwydd serch nac arail
56â â â Na'r dyn a welswn na'r dail.
57â â â Nithiodd y gaeaf noethfawr,
58â â â Dyli las, y dail i lawr.
59â â â Am hyn mae ymofyn Mai
60â â â A meiriol hin ni'm oerai.
61â â â Dyn wy' 'ngharchar dan aeaf
62â â â A'r hir hawddamor i'r haf.