Caru yn y Gaeaf
Gwae y sawl sy'n caru, breuddwyd gwrach [yw hynny],
ac eithrio yn ystod yr haf, afresymol yw'r cais,
yn dilyn yr un noson a gefais i
4 oherwydd y ferch dlos, fy mryd [oedd profi] serch,
[adeg] gaeaf, cyfaddefaf [fy] nicter,
ar ôl y Nadolig [a hithau yn] dywyll ac yn llwm,
ac yn bwrw eira, mae arwyddion oerfel [ym mhobman],
8 a'r rhew a'r pibonwy yn amlwg.
Llawen [fy] ysbryd [oeddwn], eiddgar [fy] nisgwyl am ddyfarniad
[y ferch],
[ac] yn dod yn llawen o'r dafarn
er mwyn ceisio, yr oeddwn wedi fy meddiannu gan gyffro mawr,
12 gweld y ferch gariadus, bryd golau.
A phan ddeuthum, gwn [i mi gael] anrheg,
[yr oeddwn mewn lle] peryglus, wrth ymyl y mur,
yr oedd y pibonwy llaith, rhewllyd a disglair
16 yn drwchus o dan ymylon y to oer.
Llifa yn nerthol i'm genau,
cwrs oer, bibau â gwisg o iâ [o'u hamgylch];
canhwyllau Paris Eiddig,
20 defnyddiau cas, llwyni llawn brigau;
cribin lachar a'i bysedd rhewllyd,
dannedd grymus peiriant ogi o rew;
dagrau oer, dagerau iâ,
24 rhew caled trwyddo-draw [sy'n dwyn] atgofion [annymunol].
Profodd fy ngwar, ton filain,
ddolur y nodwyddau llwydion.
Gwneuthum arwydd gan daro
28 yn hirfaith ar y ffenestr â'm llaw.
Clywodd y gwr fi cyn y ferch,
yr oedd ei fryd ar gysgu, anffodus fu [hynny].
Rhoes hergwd â'i benelin oer
32 i'r lodes luniaidd bryd golau.
Yr oedd o'r farn fod llanc ystwyth
[trwy] gytundeb rhai [â'i gilydd] yn dwyn [ei] arian.
Cododd y llipryn henaidd
36 o'i orweddfan a [daeth] gwynt drygsawrus [i'w ganlyn],
creadur dig a sarrug a swnllyd,
[a] gwaeddodd y gwr taeog ar fy ôl.
Parodd ddwyn ar fy ôl, digwyddiad arswydus,
40 dyrfa o holl bobl y dreflan [a phob un] yn llawn casineb.
Llefai hwn, clywaf floeddiadau niferus,
'Dyma'i olion; un chwim yw hwn'.
Rhoddi cannwyll Mair, [un] bur ei buchedd [oedd hi],
44 ar gwr y llwybr [lle yr oedd] olion fy nhraed.
Yna ciliais trwy ymdrech arwrol
ar hyd yr esgair dywyll a'r rhew.
Anelais am y llwyn bedw tra dymunol
48 ar fy nhaith, sef fy lloches yn ystod yr haf.
Yr oeddwn wedi tybio, [haedda] yn rhodd wasgar ar led ei
foliant,
y byddai'r llety dail yn glyd a'r to [hefyd]
[ac y byddai yno] adar mân a oedd yn fy ngharu
52 a'r ferch y cefais ei gweld [yn ôl] ym mis Mai.
Nid oedd yno le cyffelyb i hynny
(gresyn o beth) yn y llwyn o goed,
nac olion serch na chysgod
56 na'r ferch a welswn na'r dail.
Chwythodd [gwynt] nerthol a milain y gaeaf
y dail i gyd, y brodwaith ir, i'r llawr.
Oherwydd hyn y mae deisyf am fis Mai
60 a thywydd tyner na fyddai yn fy oeri.
Yr wyf yn ddyn yng ngharchar dan [orchymyn] y gaeaf
a [chanddo] gyfarchion helaeth i'r haf.