kowydd merch {al. Cd y Pibonwy}
1 gwae a garodd gwag eiriawl
2 evthr yr haf mae yn vthr yr hawl
3 ar ol vnos am dlosferch
4 a gefais i mav gof serch
5 y gavaf addefaf ddig
6 dvlwm wedi r nydolig
7 Ar eira oer yw r arwydd
8 Ar rhew ar pibonwy rhwydd
9 da vfvdd hwyl ddisgwyl farn
10 dofod yn frwysg o r dafarn
11 i geisiaw mowrfraw fvr mav
12 gweled serchog ddyn golav
63 drwy goed y glyn nim syn serch
64 Am ymaenfvr a meinferch
65 drwg fu imi defnir don
66 kevsalld or bargod kyson
13 A ffan ddoethvm gwybym ged
14 perigl im garllaw r pared
15 tew oedd dan frig y to oer
16 rhywlyd bibonwy rhewloer
17 hyfedr im safn i dafna
18 rhwysg oer chwibanogl rhisg ia
21 disglair gribin ewinrhew
22 danedd og rhowiog or rhew
19 kanhwyllav defnyddiav dig
20 pyrs addail parys eiddig
23 dagrav oer da gyrrai ia
24 kofvs o ddvrew kyfa
25 dvg fyngwar dig alar don
26 gloes y gwerthydoedd
gleisision
27 gwnevthvm amnaid dan gnithiaw
28 yn llaes ar ffenestr am llaw
29 kynt i klybv bryd kyntvn
30 gerwin fv y gwr noi fvn
31 golinio rhiain feinloer
32 A wnai ai benelin oer
33 tybiaw fod rhwydd amod rhai
34 manwl yn keisio mwnai
35 kodes y delff kelffaint
36 oi wal i hvn awel haint
37 llwfr fv ddigwas anrasol
38 llefain or milain im ol
39 dvg am fy mhen daith enbyd
40 dorf o gas y dref i gyd
43 rhoi kanwyll fair ddi airoed
44 yn ael rhych yn ol yn rhoed
41 A gweiddi o hwn gwn ganllef
42 llyma i ol a llym yw ef
45 yna i kiliais drais draglew
46 ar hyd y dv grimp arhew
47 i gyrchv r bedlwyn mwynaf
48 ar hynt am lloches yr haf
49 tybiaswn fod klod klvdreg
50 y ty dail ar to yn deg
51 a mwyn adar am karai
52 A merch a welswn ymai
53 yno nid oedd le vnoed
54 llyna gawdd evthr llwyn o goed
55 nag arwydd serch nag arail
56 nar dyn a welswn nar dail
57 nithiodd y gavaf noethfawr
58 dyli las or dail i lawr
59 Am hyn i mae mofvn mai
60 am eiriawl hin nim oerai
61 dyn wy yngharchar dan avaf
62 Ar hir hawddamor ir haf
dafydd ap gwilym