â â â Y Fiaren
1â â â  Cwrs digar, cerais Degau,
2â â â  Cwyn cyfar mwyn, cof yw'r mau,
3â â â  Coflaid lanwaith gyweithas,
4â â â  Ciried balch, nid cariad bas.
5â â â  Cefais i'm cyngor cyfun,
6â â â  Cof a bair hir lestair hun,
7â â â  Dawn myfyr, dinam ofeg,
8â â â  Dwyn taith i garu dyn teg.
9â â â  Llwybr edifar i garu,
10â â â  Llesg o daith foregwaith fu,
11â â â  Ciried gwiw, caredig waith,
12â â â  Cyn gwybod, cain yw gobaith,
13â â â  O neb cyn dechrau mebyd
14â â â  O'm bro lle'r oeddwn â'm bryd.
15â â â  Hwyr y cair, aur grair, o gred
16â â â  Hawl, i'r faenawl ar fyned,
17â â â  I geisio, lle tygaswn,
18â â â  Hawdd hud o gawdd, hyd y gwn,
19â â â  Gwaeth fu'r sâl uwch tâl y tir,
20â â â  Golud mwyn, gweled meinir.
21â â â  Gochelais, pan glywais glod
22â â â  Serch goreurferch, gyfarfod,
23â â â  Dirgel fudd, da'r gelfyddyd,
24â â â  Dawn o bwyll, â dyn o'r byd.
25â â â  Gadewais, a hyntiais hwnt,
26â â â  Priffordd y bobl a'u pryffwnt.
27â â â  Cerddais ymysg y cordderw
28â â â  Ceuoedd a chaeroedd uwch erw,
29â â â  O gwr y glyn i gôr glwys
30â â â  Goeglwybr rhwng bron ac eglwys.
31â â â  Goryw treigl, gariad traglew, 
32â â â  Gael gwyll y coed tywyll tew.
33â â â  Ar draws un yr ymdrois i
34â â â  Er morwyn i'r mieri.
35â â â  Rhwystrus ger rhiw y'm briwawdd,
36â â â  Ysgymun, coluddyn clawdd,
37â â â  Hagr dynn, rhyw eirionyn rhus,
38â â â  Honno, trychiolaeth heinus.
39â â â  Cyflym uwch glan â'i dannedd,
40â â â  Coel gwarth, cyd bai cul ei gwedd,
41â â â  Dysgodd ym anhoff gloffi,
42â â â  Dilwydd f'ainc, a daliodd fi.
43â â â  Yn ael y glyn, ynial goed,
44â â â  Nidrodd ynghylch fy neudroed.
45â â â  Cefais, tramgwyddais, trwm gawdd,
46â â â  Gwymp yno, rhuglgamp anawdd,
47â â â  Ar ael y glyn, eryl glud,
48â â â Yn wysg fy mhen yn esgud. 
49â â â  Marth i'r budrbeth atethol!
50â â â  Murniai fardd. Mae arnaf ôl.
51â â â  Mal y gwnâi ni haeddai hedd,
52â â â  Mul dyniad, mil o'i dannedd,
53â â â  Ysgorn flin, gerwin yw'r gair,
54â â â  Asgen ar fy nwy esgair.
55â â â  Llesg ac ysgymun ei llwyth,
56â â â  Lliw oferffriw fwyarffrwyth;
57â â â  Gwden rybraff ei thrafferth,
58â â â  Gwyllt poen llinin gwallt perth.
59â â â  Cas ei gwaith yn cosi gwydd,
60â â â  Cebystr o gringae cybydd;
61â â â  Coes garan ddygn dan sygn sêr,
62â â â  Cynghafog gangau ofer;
63â â â  Tant rhwyd a fwriwyd o fâr,
64â â â  Telm ar lethr pen talar;
65â â â  Tytmwy, ar adwy'r ydoedd,
66â â â  Tant coed o'r nant, cadarn oedd.
67â â â  Buan fo tân, luman lem,
68â â â  Brid ysgythrlid ysgithrlem,
69â â â  Lluniodd ym anhoff broffid,
70â â â  A'i llysg i ddial fy llid.