| Y Fiaren | |
| Cwrs digar, cerais Degau, | |
| Cwyn cyfar mwyn, cof yw'r mau, | |
| Coflaid lanwaith gyweithas, | |
| 4 | Ciried balch, nid cariad bas. |
| Cefais i'm cyngor cyfun, | |
| Cof a bair hir lestair hun, | |
| Dawn myfyr, dinam ofeg, | |
| 8 | Dwyn taith i garu dyn teg. |
| Llwybr edifar i garu, | |
| Llesg o daith foregwaith fu, | |
| Ciried gwiw, caredig waith, | |
| 12 | Cyn gwybod, cain yw gobaith, |
| O neb cyn dechrau mebyd | |
| O'm bro lle'r oeddwn â'm bryd. | |
| Hwyr y cair, aur grair, o gred | |
| 16 | Hawl, i'r faenawl ar fyned, |
| I geisio, lle tygaswn, | |
| Hawdd hud o gawdd, hyd y gwn, | |
| Gwaeth fu'r sâl uwch tâl y tir, | |
| 20 | Golud mwyn, gweled meinir. |
| Gochelais, pan glywais glod | |
| Serch goreurferch, gyfarfod, | |
| Dirgel fudd, da'r gelfyddyd, | |
| 24 | Dawn o bwyll, â dyn o'r byd. |
| Gadewais, a hyntiais hwnt, | |
| Priffordd y bobl a'u pryffwnt. | |
| Cerddais ymysg y cordderw | |
| 28 | Ceuoedd a chaeroedd uwch erw, |
| O gwr y glyn i gôr glwys | |
| Goeglwybr rhwng bron ac eglwys. | |
| Goryw treigl, gariad traglew, | |
| 32 | Gael gwyll y coed tywyll tew. |
| Ar draws un yr ymdrois i | |
| Er morwyn i'r mieri. | |
| Rhwystrus ger rhiw y'm briwawdd, | |
| 36 | Ysgymun, coluddyn clawdd, |
| Hagr dynn, rhyw eirionyn rhus, | |
| Honno, trychiolaeth heinus. | |
| Cyflym uwch glan â'i dannedd, | |
| 40 | Coel gwarth, cyd bai cul ei gwedd, |
| Dysgodd ym anhoff gloffi, | |
| Dilwydd f'ainc, a daliodd fi. | |
| Yn ael y glyn, ynial goed, | |
| 44 | Nidrodd ynghylch fy neudroed. |
| Cefais, tramgwyddais, trwm gawdd, | |
| Gwymp yno, rhuglgamp anawdd, | |
| Ar ael y glyn, eryl glud, | |
| 48 | Yn wysg fy mhen yn esgud. |
| Marth i'r budrbeth atethol! | |
| Murniai fardd. Mae arnaf ôl. | |
| Mal y gwnâi ni haeddai hedd, | |
| 52 | Mul dyniad, mil o'i dannedd, |
| Ysgorn flin, gerwin yw'r gair, | |
| Asgen ar fy nwy esgair. | |
| Llesg ac ysgymun ei llwyth, | |
| 56 | Lliw oferffriw fwyarffrwyth; |
| Gwden rybraff ei thrafferth, | |
| Gwyllt poen llinin gwallt perth. | |
| Cas ei gwaith yn cosi gwŷdd, | |
| 60 | Cebystr o gringae cybydd; |
| Coes garan ddygn dan sygn sêr, | |
| Cynghafog gangau ofer; | |
| Tant rhwyd a fwriwyd o fâr, | |
| 64 | Telm ar lethr pen talar; |
| Tytmwy, ar adwy'r ydoedd, | |
| Tant coed o'r nant, cadarn oedd. | |
| Buan fo tân, luman lem, | |
| 68 | Brid ysgythrlid ysgithrlem, |
| Lluniodd ym anhoff broffid, | |
| A'i llysg i ddial fy llid. | |