Y Fiaren | |
Cwrs digar, cerais Degau, | |
Cwyn cyfar mwyn, cof yw'r mau, | |
Coflaid lanwaith gyweithas, | |
4 | Ciried balch, nid cariad bas. |
Cefais i'm cyngor cyfun, | |
Cof a bair hir lestair hun, | |
Dawn myfyr, dinam ofeg, | |
8 | Dwyn taith i garu dyn teg. |
Llwybr edifar i garu, | |
Llesg o daith foregwaith fu, | |
Ciried gwiw, caredig waith, | |
12 | Cyn gwybod, cain yw gobaith, |
O neb cyn dechrau mebyd | |
O'm bro lle'r oeddwn â'm bryd. | |
Hwyr y cair, aur grair, o gred | |
16 | Hawl, i'r faenawl ar fyned, |
I geisio, lle tygaswn, | |
Hawdd hud o gawdd, hyd y gwn, | |
Gwaeth fu'r sâl uwch tâl y tir, | |
20 | Golud mwyn, gweled meinir. |
Gochelais, pan glywais glod | |
Serch goreurferch, gyfarfod, | |
Dirgel fudd, da'r gelfyddyd, | |
24 | Dawn o bwyll, â dyn o'r byd. |
Gadewais, a hyntiais hwnt, | |
Priffordd y bobl a'u pryffwnt. | |
Cerddais ymysg y cordderw | |
28 | Ceuoedd a chaeroedd uwch erw, |
O gwr y glyn i gôr glwys | |
Goeglwybr rhwng bron ac eglwys. | |
Goryw treigl, gariad traglew, | |
32 | Gael gwyll y coed tywyll tew. |
Ar draws un yr ymdrois i | |
Er morwyn i'r mieri. | |
Rhwystrus ger rhiw y'm briwawdd, | |
36 | Ysgymun, coluddyn clawdd, |
Hagr dynn, rhyw eirionyn rhus, | |
Honno, trychiolaeth heinus. | |
Cyflym uwch glan â'i dannedd, | |
40 | Coel gwarth, cyd bai cul ei gwedd, |
Dysgodd ym anhoff gloffi, | |
Dilwydd f'ainc, a daliodd fi. | |
Yn ael y glyn, ynial goed, | |
44 | Nidrodd ynghylch fy neudroed. |
Cefais, tramgwyddais, trwm gawdd, | |
Gwymp yno, rhuglgamp anawdd, | |
Ar ael y glyn, eryl glud, | |
48 | Yn wysg fy mhen yn esgud. |
Marth i'r budrbeth atethol! | |
Murniai fardd. Mae arnaf ôl. | |
Mal y gwnâi ni haeddai hedd, | |
52 | Mul dyniad, mil o'i dannedd, |
Ysgorn flin, gerwin yw'r gair, | |
Asgen ar fy nwy esgair. | |
Llesg ac ysgymun ei llwyth, | |
56 | Lliw oferffriw fwyarffrwyth; |
Gwden rybraff ei thrafferth, | |
Gwyllt poen llinin gwallt perth. | |
Cas ei gwaith yn cosi gwŷdd, | |
60 | Cebystr o gringae cybydd; |
Coes garan ddygn dan sygn sêr, | |
Cynghafog gangau ofer; | |
Tant rhwyd a fwriwyd o fâr, | |
64 | Telm ar lethr pen talar; |
Tytmwy, ar adwy'r ydoedd, | |
Tant coed o'r nant, cadarn oedd. | |
Buan fo tân, luman lem, | |
68 | Brid ysgythrlid ysgithrlem, |
Lluniodd ym anhoff broffid, | |
A'i llysg i ddial fy llid. | |