Edited Text: 56 - Y Fiaren

Print friendly version

Y Fiaren

Cwrs digar, cerais Degau,
Cwyn cyfar mwyn, cof yw'r mau,
Coflaid lanwaith gyweithas,
4 Ciried balch, nid cariad bas.
Cefais i'm cyngor cyfun,
Cof a bair hir lestair hun,
Dawn myfyr, dinam ofeg,
8 Dwyn taith i garu dyn teg.
Llwybr edifar i garu,
Llesg o daith foregwaith fu,
Ciried gwiw, caredig waith,
12 Cyn gwybod, cain yw gobaith,
O neb cyn dechrau mebyd
O'm bro lle'r oeddwn â'm bryd.

   Hwyr y cair, aur grair, o gred
16 Hawl, i'r faenawl ar fyned,
I geisio, lle tygaswn,
Hawdd hud o gawdd, hyd y gwn,
Gwaeth fu'r sâl uwch tâl y tir,
20 Golud mwyn, gweled meinir.
Gochelais, pan glywais glod
Serch goreurferch, gyfarfod,
Dirgel fudd, da'r gelfyddyd,
24 Dawn o bwyll, â dyn o'r byd.

   Gadewais, a hyntiais hwnt,
Priffordd y bobl a'u pryffwnt.
Cerddais ymysg y cordderw
28 Ceuoedd a chaeroedd uwch erw,
O gwr y glyn i gôr glwys
Goeglwybr rhwng bron ac eglwys.
Goryw treigl, gariad traglew,
32 Gael gwyll y coed tywyll tew.
Ar draws un yr ymdrois i
Er morwyn i'r mieri.
Rhwystrus ger rhiw y'm briwawdd,
36 Ysgymun, coluddyn clawdd,
Hagr dynn, rhyw eirionyn rhus,
Honno, trychiolaeth heinus.
Cyflym uwch glan â'i dannedd,
40 Coel gwarth, cyd bai cul ei gwedd,
Dysgodd ym anhoff gloffi,
Dilwydd f'ainc, a daliodd fi.
Yn ael y glyn, ynial goed,
44 Nidrodd ynghylch fy neudroed.

   Cefais, tramgwyddais, trwm gawdd,
Gwymp yno, rhuglgamp anawdd,
Ar ael y glyn, eryl glud,
48Yn wysg fy mhen yn esgud.
Marth i'r budrbeth atethol!
Murniai fardd. Mae arnaf ôl.
Mal y gwnâi ni haeddai hedd,
52 Mul dyniad, mil o'i dannedd,
Ysgorn flin, gerwin yw'r gair,
Asgen ar fy nwy esgair.
Llesg ac ysgymun ei llwyth,
56 Lliw oferffriw fwyarffrwyth;
Gwden rybraff ei thrafferth,
Gwyllt poen llinin gwallt perth.
Cas ei gwaith yn cosi gwŷdd,
60 Cebystr o gringae cybydd;
Coes garan ddygn dan sygn sêr,
Cynghafog gangau ofer;
Tant rhwyd a fwriwyd o fâr,
64 Telm ar lethr pen talar;
Tytmwy, ar adwy'r ydoedd,
Tant coed o'r nant, cadarn oedd.

   Buan fo tân, luman lem,
68 Brid ysgythrlid ysgithrlem,
Lluniodd ym anhoff broffid,
A'i llysg i ddial fy llid.