Welsh Paraphrase: 56 - Y Fiaren

Print friendly version

Y Fiaren

Swrnai fileinig, bu i mi garu [un megis] Tegau,
cwyn [yn sgil] cydsynied hyfryd, cofiaf [am hyn],
cofleidiad sy'n weithred ddymunol a mwyn,
4 rhodd [un o dras] urddasol, nid arwynebol [oedd ein] cariad.
Penderfynais, a di-droi'n-ôl oeddwn,
bydd [fy] atgofion [am y ferch] yn atal cwsg am ysbaid hir,
rhodd a achosodd ofid, difeddwl-drwg oedd yr amcan,
8 fynd ar daith er mwyn caru lodes hardd.
Taith i garu yr edifarhawyd o'i phlegid,
taith ydoedd a barodd flinder,
rhodd deilwng, gweithred garedig,
12 [dechreuodd] yn blygeiniol a chyn i'r dydd gerdded nemor
[a] chyn i neb o'm cynefin allu gwybod
i ba le yr oeddwn yn amcanu mynd, hardd yw [fy] ngobeithion.

Ar fin mynd i gyfeiriad yr ystad [yr oeddwn]
16 [ond] nid yn rhwydd y mae cael caniatâd trwy ymddiriedaeth, yn ôl fel y barnwn,
trysor bonheddig, i geisio gweld y ferch ifanc, elw gwych,
tebycach yw dichell oherwydd digofaint,
[ac] yr wyf yn gyfarwydd â maint hwnnw,
20 [ond] gwaeth [na hynny] fu'r rhodd [a gefais] [wrth rodio] dros gyrion y tir.
Pan glywais ganu clodydd serchogrwydd y lodes dra disglair [ei gwedd]
ymataliais rhag cwrdd â'r un enaid byw,
elw llechwraidd [yn hytrach], crefftus yw'r ystryw,
24 rhodd trwy ddyfeisgarwch.

Cefnais ar brif dramwyfa'r lliaws a'r mannau poblog
ac ymlwybrais ar fy hynt.
Cerddais ymysg y coedach derw
28 [ar hyd] erwau lawer o bantiau a bryniau
[ac] ar hyd rhyw rith o lwybr rhwng y bryn a'r llan
o gyrion y dyffryn i ganol cangell hardd [y coed].
Mynnodd siwrnai, angerddol [yw'r] cariad,
32 fy mod yn ceisio cysgod y coed tywyll a thrwchus.
Ar draws un ohonynt y baglais oherwydd genethig
i ganol y drain.
Fe'm hanafodd ger y llechwedd a'm hatal,
36 yr un atgas, ymysgaroedd y clawdd,
gafaeliad cas honno, rhyw bigyn rhwystrus,
drychiolaeth heintus.
Un chwim uwch y tir â'i dannedd,
40 argoel gwarth, er mai main ydyw o ran ei ffurf,
cefais wybod er anfodlonrwydd imi sut brofiad oedd bod yn gloff,
ofer fu fy mlys, a daliodd fi.
Ar gyrion y glyn [a'i] goed gwyllt
44 clymodd o amgylch fy nghoesau.

Cefais godwm yno a syrthiais
ar gyrion y glyn, helfa ludiog,
a'm pen yn flaenaf heb rybudd.
48 Trallod garw; anodd [yw] symud yn chwim.
Gwae'r peth budr a salw hwn!
Daliai fardd trwy dwyll. Mae [ei] olion arnaf.
Ni haeddai gyfeillgarwch, trist [yw ei] afaeliad,
52 oherwydd y modd mynnai ei fil o ddannedd,
blin [yw'r] dirmyg, garw yw cyfaddef hyn,
wneud briw ar fy nwy goes.
Ysgymun yw ei gynnyrch, peth sy'n peri blinder,
56 a gwedd ac ymddangosiad afradlon ei ffrwyth o fwyar duon;
gwialen sy'n creu trafferthion helaeth,
ffyrnig yw'r boen [a achosodd] llinyn gwallt y berth.
Atgas yw ei lafur yn goglais coed,
60 rhwymyn [sy'n perthyn i] dir diffrwyth cybydd;
coes garan ddisymud dan arwyddion y sêr,
canghennau afradlon a gafaelgar;
llinyn rhwyd a daflwyd mewn casineb,
64 magl ar lethr blaen y dalar;
rhaff, mewn bwlch yr oedd,
cordyn coed y dyffryn, cadarn ydoedd.
Deued tân yn fuan a fydd yn ei losgi,
68 y llipryn garw, gan dalu'r pwyth am iddo fy ngwylltio;
parodd i mi wobr nas chwenychid,
pigyn llidiog a llym ei ddannedd [y bu ei effaith] yn gostus.