Owdl fol: llywelyn fab Gwilym o Emlyn An Excellent Ode
1 Llyfr dwned dyfed dyfyn ar windai
2 i randir llywelyn
3 llanerch aed anerch pob dyn
4 lle twymlys llv at Emlyn
5 llynn i barc Emlyn camlas hyd Teifi
6 ar tefyrn ymhob plas
7 llvdded gerdd lladdiad ei gas
8 llei bo'r orddod llwybr vrddas
9 llwybr vrddas barr bras yn bwrw bryn eglvr
10 oglais lloegr a ffrydyn
11 llei del yr hollfyd a dyn
12 llaw hael at enw llywelyn
13 llywelyn ai myn o ymyni a grym
14 llawenfab Gwilym erddrym wrddri
15 llai ymadrawdd cawdd yn coddi na chaeth
16 llyfodraeth a wnaeth a maeth i mi
17 llafvriawdd berthawdd i borthi digeirdd
18 llys ym mryn y beirdd lle heirdd yw hi
19 llei gnawd cael gwasgawd a gwisgi ddillad
20 lletty anghaead wasdad wesdi
21 lle cynefin gwin a gweini helgyrn
22 lle chwyrn llwybr tefyrn lle beirw Teifi
23 lle dichwerw a serw oer ryseri bryd
24 llei chwery esbyd byd heb oedi
25 lle maith yn llownwaith yn llenwi bveli
26 llei mae vfvdd fvdd lle i feddwi
27 lle oth nerth ddvw ferth ydda fi drachgefn
28 lle anarlloesdrefn llanw avr llesdri
29 llys erwyr a wnaeth llv seiri yn falch
30 lliwgaer yn lwysgalch llvgvrn losgi
35 llowiawdr ymerawdr ymeiri edlffled
36 llyw yw ar Ddyfed llawer ddofi
33 llwybreiddwlad gariad Gwri wallt evryn
34 llywelyn drowsdyn a a drosdi
37 llonglwyth i dylwyth hyd weli a draidd
38 llariaidd brawdwraidd ail bryderi
39 llwyddaw ysb evraw ys beri gwehyll
40 llid pyll arf tridryll arfod Rodri
41 llinon gadr baladr Beli ynghyngaws
42 llwyrnaws llyr hoywdraws llew wrhydri
43 llawen grair a'n pair yn peri llwyddfoes
44 llywenydd a roes a moes i mi
51 llywelyn derwyn i dorri llinon
52 llowfron y dynion ai daioni
47 llwydda na threia vn a thri rhag llaw
48 llwyddaw dawn iddaw dvw iw noddi
Dafydd ap Gwilym ai cant