â â â Y Niwl
1â â â Doe Ddifiau, dydd i yfed,
2â â â Da fu'm gael, dyfu ym ged,
3â â â Coel fawrddysg, cul wyf erddi,
4â â â Cyfa serch, y cefais i
5â â â Gwrs glwysgainc goris glasgoed
6â â â Gyda merch, gadai ym oed.
7â â â Nid oedd, o dan hoywDduw Dad,
8â â â Dawn iddi, dyn a wyddiad,
9â â â Or dôi Difiau, dechrau dydd,
10â â â Lawned fûm o lawenydd
11â â â Yn myned, gweled gwiwlun,
12â â â I'r tir yr oedd feinir fun,
13â â â Pan ddoeth yn wir ar hirros
14â â â Niwl yn gynhebig i nos.
15â â â Rhol fawr a fu'n glawr i'r glaw,
16â â â Rhestri gleision i'm rhwystraw,
17â â â Rhidyll ystaen yn rhydu,
18â â â Rhwyd adar y ddaear ddu,
19â â â Cae anghlaer mewn cyfynglwybr,
20â â â Carthen anniben yn wybr,
21â â â Cwfl llwyd yn cyfliwio llawr,
22â â â Cwfert ar bob cwm ceufawr,
23â â â Clwydau uchel a welir,
24â â â Clais mawr uwch garth, tarth y tir,
25â â â Cnu tewlwyd gwynllwyd gwanllaes,
26â â â Cyfliw â mwg, cwfl y maes,
27â â â Coetgae glaw er lluddiaw lles,
28â â â Codarmur cawad ormes,
29â â â Twyllai wyr, tywyll o wedd,
30â â â Toron gwrddonig tiredd,
31â â â Tyrau uchel eu helynt
32â â â Tylwyth Gwyn, talaith y gwynt,
33â â â Tir a gudd ei ddeurudd ddygn,
34â â â Torsed yn cuddio teirsygn,
35â â â Tywyllwg, un tew allardd,
36â â â Delli byd i dwyllo bardd,
37â â â Llydanwe gombr gosombraff,
38â â â Ar lled y'i rhodded fal rhaff,
39â â â Gwe adrgop, Ffrengigsiop ffrwyth,
40â â â Gwan dalar Gwyn a'i dylwyth,
41â â â Mwg brych yn fynych a fydd,
42â â â Mogodarth cylch meigoedydd,
43â â â Anadl arth lle cyfarth cwn,
44â â â Ennaint gwrachïod Annwn,
45â â â Gochwith megis gwlith y gwlych,
46â â â Habrsiwn tir anehwybrsych.
47â â â Haws cerdded nos ar rosydd
48â â â I daith nog ar niwl y dydd.
49â â â Y sêr a ddaw o'r awyr
50â â â Fal fflamau canhwyllau cwyr,
51â â â Ac ni ddaw, poen addaw, pwl
52â â â Lloer na sêr Nêr ar nïwl.
53â â â Gwladaidd y gwnaeth yn gaethddu
54â â â Y niwl fyth, anolau fu.
55â â â Lluddiodd ym lwybr dan wybren,
56â â â Llatai a ludd llwytu len,
57â â â A lluddias ym, gyflym gael,
58â â â Myned at fy nyn meinael.