Y Niwl
Doe, ddydd Iau (dydd i yfed,
bu'n dda i mi gael, daeth ffafr i mi,
argoel credadwy, rwyf yn denau o'i herwydd hi,
4 serch llwyr) y cefais i
hynt ymhlith canghennau hardd o dan y coed glas
gyda merch, cytunai hi i gwrdd â mi.
Nid oedd neb dan Dduw Dad gwych
8 yn gwybod (bendith arni)
pan ddaeth dydd Iau gyda'r wawr
mor llawn o lawenydd y bûm
yn mynd, [i] weld yr un hardd ei golwg,
12 i'r tir lle roedd y ferch fain a thal,
pan ddaeth yn wir ar ros hir
niwl yn union fel nos.
Rholyn memrwn mawr a fu'n orchudd i'r glaw,
16 rhesi gwelw i'm rhwystro,
rhidyll lliw tun yn rhydu,
rhwyd adar y ddaear ddu,
gwrych tywyll mewn llwybr cyfyng,
20 blanced diddiwedd yn yr awyr,
penwisg lwyd yn gwneud y llawr yn un lliw,
gorchudd ar bob cwm mawr a gwag,
rhwyllwaith to sydd i'w weld,
24 gwrym mawr uwch coedwig, tarth y tir,
cnu llwyd trwchus, gwyn a llwyd, gwan a llac,
yr un lliw â mwg, penwisg y maes,
gwrych y glaw er mwyn rhwystro lles,
28 gwisg ddur cawod ormesol,
byddai'n twyllo gwyr, golwg tywyll,
mantell flewog y ddaear,
tyrau tylwyth Gwyn ap Nudd
32 yn trafaelu'n uchel, penwisg y gwynt,
mae ei fochau blin yn cuddio'r tir,
carthen yn cuddio tri o arwyddion y Sodiac,
tywyllwch, un trwchus hyll,
36 dallineb byd i dwyllo bardd,
gwe lydan o gamrig trwchus a thwyllodrus,
ar led y'i rhoddwyd fel rhaff,
gwe pryf copyn, nwyddau siop Ffrengig,
40 talar wan Gwyn ap Nudd a'i dylwyth,
mwg brith a fydd yn mynd i bobman,
ager o gwmpas coed mân,
anadl arth lle mae cwn yn cyfarth,
44 ennaint gwrachod Annwfn,
mae'n gwlychu'n llechwraidd fel gwlith,
crys dur aneglur a gwlyb y tir.
Mae'n haws cerdded ar daith dros y bryniau
48 gyda'r nos nag mewn niwl yn y dydd.
Daw'r sêr o'r awyr
fel fflamau canhwyllau cwyr,
ond ni ddaw golau lleuad na sêr yr Arglwydd
52 mewn niwl, addewid gofidus.
Gwael y gwnaeth Ef pan greodd y niwl
yn ddu a chaethiwus bob amser, bu'n dywyll.
Rhwystrodd lwybr i mi dan yr wybren,
56 mae'r llen lwyd dywyll yn rhwystro negesydd serch,
a rhwystrodd i mi (caffaeliad sydyn)
fynd at fy merch â'r ael fain.