1 doy ddifiav dydd i yfed
2 da fvm goyl doyf ymmv ged
3 koyl fowrddysg kvl wyf erddi
4 kyfa serch doy kefais i
5 [391] gwrs glwysgaink goris glasgoyd
6 gida merch gado ym oyd
7 nid oydd dan hoywddvw dad
8 dawn iddi dyn a wyddiad
9 doy ddifiav dechrav y dydd
10 lowned fvm o lywenydd
11 myned yw gweled gwiwlvn
12 i dir lle roydd feinir fvn
13 pan ddoyth yn wir ar hiros
14 y niwl yn debig ir nos
15 toron fawr fv glawr y glaw
16 rhestri gleision im rhwystraw
19 kae anglaer mewn kyfynglwybr
20 karthen aniben yn wybr
21 kwfl llwyn er kyflowni llawr
22 kwfert ar bob kwm kevfawr
25 kyfyngaf chwedl hockedlaes
26 kyfliw mwg yw kwfl y maes
43 anadl arth llei kyfarth kwn
44 ennaint gwrachiod annwn
29 twyllai wyr towyll o wedd
30 toron gwrddonig tiredd
33 tir a gvdd i ddevrvdd ddygyn
34 torsed yn kiddio teirsvgyn
41 [392] mwg brych yn fynych a fydd
42 mygydwarth gar mai goydwydd
37 llydanwe gombr eb sonbraff
38 ar lled i rhodded fal rhaff
39 gweadrgopp ffrengig siop ffrwyth
40 gwann dalar gwynn ai dylwyth
45 go chwith fegis gwlith i gwlych
46 o abrsiwn dir ewybrsych
47 haws kerdded nos ar rosydd
48 i daith nag ar niwl y dydd
49 y ser a ddaw or awyr
50 fal fflammav kynhwyllav kwyr
51 ag ni ddaw poyn addaw pwl
52 lloyr na ser or ner ar niwl
53 gwladaith i gwnaeth yn gaeth ddv
54 y niwl fyth anolav fv
55 llvddiodd ym lwybr dan wybren
56 llattai a lvdd llwydtv lenn
17 rhidill ystaen yn rhydv
18 rhwyd adar y ddayar ddv
57 llvddiodd ym yn gyflym gael
58 fyned at forvydd feinael
davydd ap Gwilim ai kant