kowydd arall ir niwl o waith dd glm
1 doe ddifiau dydd i yfed
2 da fym gael dyfu ym ged
3 cael fowrddysg cul wyf erddi
4 cyfa serch i cefais i
9 ar ddifiau dechrau y dydd
10 lawned wyf o lywenydd
5 gwrs glwysgerdd goris glasgoed
6 gida merch gwedi ym oed
11 yn myned gweled gwiwlun
12 ir tir llei ddoedd feinir fun
13 pan ddoeth yn wir ir hiros
14 niwl yn gyffelib i nos
15 [236] rhol fawr a fu/n/ glawr ir glaw
16 rhestri gleision im rhwystraw
19 cof anglaer mewn cyfynglwybr
20 carthen aniben yn wybr
21 cwfl llwyd yn cyfliwio llawr
22 cwfert ar bob cwm ceufawr
37 llydanwe gombr gosiombraff
38 ar lled i rhed fal yn rhaff
23 clwydau uchel a welir
24 clais mawr ywch garth tarth y tir
33 tir agydd i ddeyrydd ddygn
34 torsed yn cyrchy teirsygn
25 cnu tewlwyd gwnllwyd gwanllaes
26 cyfliw a mwg cwfl y maes
27 coetgae glaw er llyddiaw lles
28 cotarmur cawat ormes
31 tyrau uchel i helynt
32 tylwyth gwyn talaith y gwynt
39 gwehydrgop ffrengigsiop ffrwyth
40 gwan dalar gwyn ai dylwyth
41 mwg brych yn fynych a fydd
42 mygydarth gylch mai goedydd
43 anardd darth llei cyfarth cwn
44 ennaint gwrachiod annwn
45 ochwith megis gwlith i gwlych
46 haborsiwn tir anhewybrsych
53 truan i gwnaeth fynghaethu
54 y niwl fyth anole fu
57 a llyddias ym gyflym gael
58 fyned at fy nyn feiniael
Dauid ap gwylym ai kant