Awdl foliant i Lywelyn o Emlyn o waith Dafydd ab Gwilym
1 Llyfr Dwned Dyfed dyfyn ar winda
2 I Ranndir Llywelyn
3 Llannerch aed annerch pob dyn
4 Lle twymlys llu at Emlyn
5 Llynn i barc Emlyn Camlas at Teifi
6 Ar Tefyrn ym mhob plas
7 Lludded gardd lladded ei gas
8 Lle bo'r ordded llwybr urddas
9 Llwybr urddas barr bras yn bwrio bryn eglur
10 Oglais Lloegr a Phrydyn
11 Lle del yr holl fyd a dynn
12 Llaw hael ag Enw Llywelyn
13 Llywelyn ai mynn o mynni a grymm
14 Llawenfab Gwilym erddrym Wrddri
15 Llew nid adrawdd cawdd in coddi nid Caeth
16 Llawruddiaeth a maeth a wnaeth a ni
37 Llorf llwyth o Dylwyth Edweli y traidd
38 Llariaidd brawd wraidd hyd Bryderi
17 Llafuriawdd berthawdd i borthi Dugeirdd
18 Llys ymlyn y Beirdd lle heirdd yw hi
19 Lle Cnawd cael gwasgawd a gwisgi ddillad
20 Lletty anghauad wastad westi
21 Lle cynefin gwin a gweini Heilgyrn
22 Lle chwyrn llwybr Tefyrn lle beirw Teifi
23 Lle chwerw aeserw o erysi bryd
24 Lle chwerw esbyd byd heb oedi
26 Lle mae ufuddwin llynn i feddwi
27 Lle oth nerth Dduw ferth ydda fi drachefn
28 Lle anarlloesdrefn llanw aur Llestri
29 Llys Eurwr ai gwnaeth lle seiri yn falch
30 Lliwgaer yn lasgalch Llugyrn losgi
31 Llawnaf dianaf daioni mynud
32 Lluniaeth ffraeth ffrwythlud glud glodfori
33 Llwybreiddwlad gariad gwri wallt euryn
34 Llywelyn drawst ai law drosti
35 Llywiawdr Ymerawdr a meiri Edelffled
36 Llyw yw'r Ddyfed a llawer ddofi
39 Llathr Law osb euraw ysberi Gweyll
40 Llid pyll arf dridryll arfod Rodri
41 Llinongadr baladr Beli ynghyngaws
42 Llwyr naws Llyr hoywdraws Llew o Rhydri
43 Llawn Grair hau a bair aberi llwyddfoes
44 Llawenydd a roes a moes i mi
45 Llywelyn derfyn i dorri aergeid
46 Llaw fad aur rhuddiad a wyr rhoddi
47 Llywia na threia un a thri rhag llaw
48 Llywiaw Ddawn iddaw Dduw iw noddi
Dafydd ab Gwilym ai Cant