â â â Y Lleuad
1â â â Pynciau afrwydd drwy'r flwyddyn
2â â â A roes Duw i rusio dyn.
3â â â Nid eiddio serchog diddim
4â â â Nos yn rhydd na dydd na dim.
5â â â Neud ofer brig llawer llwyn,
6â â â Neud wyf glaf am dwf gloywfwyn.
7â â â Ni lefys dyn ail Ofydd,
8â â â Ei brawd wyf, o'i bro y dydd.
9â â â Neud gwedy gwydn o gythrudd
10â â â Nid nes lles, neud nos a'i lludd.
11â â â Ni bydd mawr, gwn, y budd mau,
12â â â Na sâl tra fo nos olau.
13â â â Gwn ddisgwyl dan gain ddwysgoed,
14â â â Gwyw fy nrem rhag ofn erioed.
15â â â Gwaeth no'r haul yw'r oleuloer,
16â â â Gwaith yr oedd, mawr oedd, mor oer.
17â â â Gwelïoedd dagreuoedd dig,
18â â â Gwae leidr a fo gwyliedig.
19â â â Golydan ail eirian loer,
20â â â Goleudapr hin galedoer.
21â â â Blin yw ar bob blaen newydd
22â â â Blodeuyn o dywyn dydd.
23â â â Plwyfogaeth saeroniaeth sant,
24â â â Planed dwfr pob blaen tyfiant.
25â â â Ei threfn fydd bob pythefnos -
26â â â Ei thref dan nef ydiw nos -
27â â â I ddwyn ei chwrs oddyna,
28â â â Myfyr wyf, mwyfwy yr â
29â â â Hon yny fo dau hanner,
30â â â Huan, nos eirian, y sêr.
31â â â Hyrdda lanw, hardd oleuni,
32â â â Haul yr ellyllon yw hi.
33â â â A fu ddim waeth, rygaeth reg,
34â â â I leidr no nos oleudeg?
35â â â Eiddig dawel o'i wely,
36â â â Wrth bryd, llwyr fryd, y lloer fry,
37â â â I'm gwâl dan y gwial da
38â â â A'm gwyl i'w emyl yma.
39â â â Rhyborth i'r gwr yw'r fflwring,
40â â â Rhyddi a nef dref y dring.
41â â â Rhygron fu hon ar fy hynt,
42â â â Rhywel ysbardun rhewynt.
43â â â Rhwystr serchog anfoddog fydd,
44â â â Rhyw wegil torth rhewogydd.
45â â â Rhyleidr haf a'i gwarafun,
46â â â Rhyloyw fu er hwyl i fun.
47â â â Rhod uchel yw ei gwely,
48â â â Rhan Ddwy fraisg o'r hindda fry.
49â â â Cennyw lle bwyf, cannwyll byd,
50â â â Cwfert, o'r wybr y cyfyd.
51â â â Cyfled ei chae â daear,
52â â â Cyfliw gwersyllt gwyllt a gwâr.
53â â â Cyflunddelw gogr cyflawnddellt,
54â â â Cynefin ei min â mellt.
55â â â Cerddedwraig llwybr yn wybr nen,
56â â â Carrai fodd, cwr efydden.
57â â â Camp mesurlamp maes serloyw,
58â â â Cwmpas o'r wybren las loyw.
59â â â Dydd heb haul, deddyw polart,
60â â â Dig fu, i'm gyrru o'm gwart.
61â â â Disgleirbryd cyn dwys glaerbrim,
62â â â Da oedd ym be duai ddim.
63â â â I anfon llateion taer,
64â â â Dioferchwedl dai f'eurchwaer,
65â â â Tra fo nos loyw ddiddos lân,
66â â â Tywyllid Tad Duw allan.
67â â â Rheol teg oedd i'n Rhiydd,
68â â â Rho Duw, yn olau rhoi dydd,
69â â â A rhoi ynn nos, a rhin oedd,
70â â â Yn dywyll i ni'n deuoedd.