Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(tud)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigY LleuadPynciau afrwydd drwy'r flwyddyn A roes Duw i rusio dyn. Nid eiddio serchog diddim Nos yn rhydd na dydd na dim. Neud ofer brig llawer llwyn, Neud wyf glaf am dwf gloywfwyn. Ni lefys dyn ail Ofydd, Ei brawd wyf, o'i bro y dydd. Neud gwedy gwydn o gythrudd Nid nes lles, neud nos a'i lludd. Ni bydd mawr, gwn, y budd mau, Na sâl tra fo nos olau. Gwn ddisgwyl dan gain ddwysgoed, Gwyw fy nrem rhag ofn erioed. Gwaeth no'r haul yw'r oleuloer, Gwaith yr oedd, mawr oedd, mor oer. Gwelïoedd dagreuoedd dig, Gwae leidr a fo gwyliedig. Golydan ail eirian loer, Goleudapr hin galedoer. Blin yw ar bob blaen newydd Blodeuyn o dywyn dydd. Plwyfogaeth saeroniaeth sant, Planed dwfr pob blaen tyfiant. Ei threfn fydd bob pythefnos - Ei thref dan nef ydiw nos - I ddwyn ei chwrs oddyna, Myfyr wyf, mwyfwy yr â Hon yny fo dau hanner, Huan, nos eirian, y sêr. Hyrdda lanw, hardd oleuni, Haul yr ellyllon yw hi. A fu ddim waeth, rygaeth reg, I leidr no nos oleudeg? Eiddig dawel o'i wely, Wrth bryd, llwyr fryd, y lloer fry, I'm gwâl dan y gwial da A'm gwyl i'w emyl yma. Rhyborth i'r gwr yw'r fflwring, Rhyddi a nef dref y dring. Rhygron fu hon ar fy hynt, Rhywel ysbardun rhewynt. Rhwystr serchog anfoddog fydd, Rhyw wegil torth rhewogydd. Rhyleidr haf a'i gwarafun, Rhyloyw fu er hwyl i fun. Rhod uchel yw ei gwely, Rhan Ddwy fraisg o'r hindda fry. Cennyw lle bwyf, cannwyll byd, Cwfert, o'r wybr y cyfyd. Cyfled ei chae â daear, Cyfliw gwersyllt gwyllt a gwâr. Cyflunddelw gogr cyflawnddellt, Cynefin ei min â mellt. Cerddedwraig llwybr yn wybr nen, Carrai fodd, cwr efydden. Camp mesurlamp maes serloyw, Cwmpas o'r wybren las loyw. Dydd heb haul, deddyw polart, Dig fu, i'm gyrru o'm gwart. Disgleirbryd cyn dwys glaerbrim, Da oedd ym be duai ddim. I anfon llateion taer, Dioferchwedl dai f'eurchwaer, Tra fo nos loyw ddiddos lân, Tywyllid Tad Duw allan. Rheol teg oedd i'n Rhiydd, Rho Duw, yn olau rhoi dydd, A rhoi ynn nos, a rhin oedd, Yn dywyll i ni'n deuoedd.