Edited Text: 58 - Y Lleuad

Print friendly version

Y Lleuad

Pynciau afrwydd drwy'r flwyddyn
A roes Duw i rusio dyn.
Nid eiddio serchog diddim
4Nos yn rhydd na dydd na dim.
Neud ofer brig llawer llwyn,
Neud wyf glaf am dwf gloywfwyn.
Ni lefys dyn ail Ofydd,
8Ei brawd wyf, o'i bro y dydd.
Neud gwedy gwydn o gythrudd
Nid nes lles, neud nos a'i lludd.
Ni bydd mawr, gwn, y budd mau,
12Na sâl tra fo nos olau.

    Gwn ddisgwyl dan gain ddwysgoed,
Gwyw fy nrem rhag ofn erioed.
Gwaeth no'r haul yw'r oleuloer,
16Gwaith yr oedd, mawr oedd, mor oer.
Gwelïoedd dagreuoedd dig,
Gwae leidr a fo gwyliedig.
Golydan ail eirian loer,
20Goleudapr hin galedoer.
Blin yw ar bob blaen newydd
Blodeuyn o dywyn dydd.
Plwyfogaeth saeroniaeth sant,
24Planed dwfr pob blaen tyfiant.
Ei threfn fydd bob pythefnos -
Ei thref dan nef ydiw nos -
I ddwyn ei chwrs oddyna,
28Myfyr wyf, mwyfwy yr â
Hon yny fo dau hanner,
Huan, nos eirian, y sêr.
Hyrdda lanw, hardd oleuni,
32Haul yr ellyllon yw hi.

    A fu ddim waeth, rygaeth reg,
I leidr no nos oleudeg?
Eiddig dawel o'i wely,
36Wrth bryd, llwyr fryd, y lloer fry,
I'm gwâl dan y gwial da
A'm gwŷl i'w emyl yma.
Rhyborth i'r gŵr yw'r fflwring,
40Rhyddi a nef dref y dring.
Rhygron fu hon ar fy hynt,
Rhywel ysbardun rhewynt.
Rhwystr serchog anfoddog fydd,
44Rhyw wegil torth rhewogydd.
Rhyleidr haf a'i gwarafun,
Rhyloyw fu er hwyl i fun.
Rhod uchel yw ei gwely,
48Rhan Ddwy fraisg o'r hindda fry.

    Cennyw lle bwyf, cannwyll byd,
Cwfert, o'r wybr y cyfyd.
Cyfled ei chae â daear,
52Cyfliw gwersyllt gwyllt a gwâr.
Cyflunddelw gogr cyflawnddellt,
Cynefin ei min â mellt.
Cerddedwraig llwybr yn wybr nen,
56Carrai fodd, cwr efydden.
Camp mesurlamp maes serloyw,
Cwmpas o'r wybren las loyw.

    Dydd heb haul, deddyw polart,
60Dig fu, i'm gyrru o'm gwart.
Disgleirbryd cyn dwys glaerbrim,
Da oedd ym be duai ddim.
I anfon llateion taer,
64Dioferchwedl dai f'eurchwaer,
Tra fo nos loyw ddiddos lân,
Tywyllid Tad Duw allan.
Rheol teg oedd i'n Rhiydd,
68Rho Duw, yn olau rhoi dydd,
A rhoi ynn nos, a rhin oedd,
Yn dywyll i ni'n deuoedd.