Y Lleuad
Mae Duw wedi gosod ystyriaethau dyrys
drwy'r flwyddyn i lesteirio dyn.
Nid yw'r nos na'r dydd na dim arall
4 yn eiddo dilyffethair i garwr gwaglaw.
Di-fudd yw brig llawer llwyn,
'rwy'n glaf am un fwyn a gloyw ei llun.
Ni fentra dyn tebyg i Ofydd
8 (ei brawd ydwyf) i'w bro liw dydd.
Ar ôl gofid tost
nid yw fy lles yn ddim nes - mae'r nos yn ei rwystro.
Ni fydd fy mudd yn fawr, mi wn,
12 na'm gwobr tra pery'r nos olau.
'Rwy'n hen gyfarwydd â disgwyl dan goed hardd trwchus,
bu fy llygaid yn bwl gan ofn erioed.
Mae'r lleuad olau yn waeth na'r haul
16 gan ei bod (a pheth mawr oedd hynny) mor oer.
Archollion dagrau blin,
gwae'r lleidr a gaiff ei wylio.
Lleuad lydan debyg i ferch ddisglair,
20 cannwyll yr hin galed, oer.
Gofidus ar bob lloer newydd
yw blodeuyn o dywyniad y dydd.
Plwyf o saernïaeth sant,
24 planed dwr pob eginyn.
Ei threfn bob pythefnos -
ei chartref dan y nef yw'r nos -
yw dirwyn ei chwrs oddi yno
28 (synfyfyriol ydwyf), yn fwy a mwy yr â
hon hyd nes y bo'n ddau hanner,
haul y sêr ar noson ddisglair.
Mae'n hyrddio llanw, goleuni hardd,
32 haul yr ellyllon yw hi.
A fu dim yn waeth (rhodd gyfyngus iawn)
i leidr na nos deg olau?
Mae Eiddig dawel o'i wely,
36 wrth degwch y lloer fry, a'i fryd ar hynny'n llwyr,
yn fy ngweld yma'n ei ymyl
yn fy ngwâl dan y brigau da.
Mae'r fflorin yn dra chynorthwyol i'r gwr,
40 dringa tua'i chartref yn y nef.
Rhy grwn fu hon ar fy nhaith,
olwyn ysbardun y gwynt rhewllyd.
Mae'n rhwystr i garwr anniddig,
44 rhyw gefn torth rhewogydd.
Llesteiria ben-lleidr yr haf,
bu'n rhy ddisglair i ganiatáu taith i ferch.
Cylch uchel yw ei gwely,
48 cyfran Duw gadarn o'r hindda fry.
Mae'n canfod lle'r wyf, cannwyll y byd,
gorchudd, mae'n esgyn o'r awyr.
Mae ei chwmpas cyn lleted â'r ddaear,
52 yr un lliw yw noddfa'r gwyllt a'r gwâr.
Tebyg ei ffurf i ridyll llawn rhwyllau,
a'i hymyl yn gyfarwydd â mellt.
Gwraig sy'n cerdded llwybr yn awyr y nen,
56 tebyg i garrai, ymyl crochan pres.
Un ac iddi nodwedd lamp fesur maes sy'n ddisglair gan sêr,
cylch o'r awyr las loyw.
Dydd heb haul, daeth darn arian diwerth ar fy ngwarthaf,
60 bu'n ddig, yn fy ngyrru o'm lloches.
Gwedd ddisglair cyn awr olau, ddwys y wawr,
buasai'n llesol i mi pe bai'r lleuad yn tywyllu rywfaint.
Er mwyn anfon llateion dyfal,
64 buddiol eu cyfarchiad i gartref f'anwylyd hardd,
tra bo nos loyw, glyd a theg,
boed i Dduw Dad dywyllu'r byd y tu allan.
Rheol wych fuasai i'n Harglwydd,
68 myn Duw, roi'r dydd yn olau,
a rhoi inni'r nos, a chyfrinach fuasai hynny,
yn dywyll i ni'n dau.