Owdl i Lywelyn ap Glm' o Gemais
1 Llyfr dwned dyfed dyfyn / ar windai
2 i randir Llywelyn
3 llannerch aed annerch pob dyn
4 lle twymlys llu at Emlyn//
Awdl i Lewelyn ap Gwilym o'r Cryngoed ynghemaes
13 Llywelyn a'i mynn i myfi / a grym
14 llawenfab Gwilym erddrym wrddri
15 lle i adrawdd cawdd i'm coddi / na chaeth
16 llywodraeth a wnaeth a maeth i mi
17 llafuriawdd berthawdd i borthi / digairdd
18 llys ym-mryn y bairdd lle hairdd yw hi
19 lle gnawd cael gwascawd a gwisgi / ddillad
20 lletty anghaead wastad westi
21 lle cynnefin gwin a gweini / heilgyrn
22 lle chwyrn llwybr terfyn lle beirw Teifi
23 lle chwerw aesberw o erysi / bryd
24 lle chwery hesbyd byd heb oedi
25 lle maith yn llawnwaith llenwi / buelin
26 lle mae vfyddwin llym i feddwi
27 lle o'th werth dduw nerth ydda fi / drachefn
28 lle anarlloestrefn llanw aur llestri
49 lle mae gwin ffraingc ar faingc fancr bali / ddodrefn
50 llefn geir llysdrefn ac aurllestri
29 llysauddwfr a wnaeth llys eiddi / yn falch
30 lliwgar yn lasgalch llygyrn losgi
31 llawnaf dianaf daioni / fynud
32 lluniaeth ffraeth ffrwythdud glud glodfori
33 llwybraiddwlad gariad gwri / wyllt defyrn
34 llywelyn yn drawstyn a â drosti
35 llywiawdr amerawdr meiri / hyd Elffled
36 llyw yw ar ddyfed llawer ddofi
37 llorflwyth ei dylwyth hyd wyli / yn traidd
38 llariaidd bradwriaidd hyd bryderi
39 llathrlaw ysb euraw ysberi / gwehyll
40 llid pyll arf tridryll arfod Rhodri
41 llinongadr baladr Beli / ynghyngaws
42 llwyrnaws llyr hoywdraws llew wrhydri
43 llawer crair a bair bryderi / cerddfoes
44 llawenydd a roes yn oes i ni
47 llwydda ni threia vn a thri / rhac llaw
48 llwydd a dawn iddaw duw'n ei noddi
Da' ap Glm'