| Y Pwll Mawn | |
| Gwae fardd a fai, gyfai orn, | |
| Gofalus ar gyfeiliorn. | |
| Tywyll yw'r nos ar ros ryn, | |
| 4 | Tywyll, och am etewyn! |
| Tywyll draw, ni ddaw ym dda, | |
| Tywyll, mau amwyll, yma. | |
| Tywyll iso fro, mau frad, | |
| 8 | Tywyll yw twf y lleuad. |
| Gwae fi na ŵyr, lwyr loywryw, | |
| Da ei llun mor dywyll yw, | |
| A'm bod, mau ei chlod achlân, | |
| 12 | Mewn tywyllwg tew allan. |
| Dilwybr hyn o ardelydd, | |
| Da gwn nad oeddwn, bei dydd, | |
| Gyfarwydd i gyfeiriaw | |
| 16 | Na thref nac yma na thraw, |
| Chwaethach, casach yw'r cysur, | |
| Nos yw, heb olau na sŷr. | |
| Nid call i fardd arallwlad, | |
| 20 | Ac nid teg, rhag breg na brad, |
| O'm cair yn unwlad â'm cas | |
| A'm daly, mi a'm march dulas. | |
| Nid callach, dyrysach draw, | |
| 24 | Ynn ein cael, yn enciliaw, |
| Ym mawnbwll ar ôl mwynbarch, | |
| Gwedy boddi, mi a'm march. | |
| Pyd ar ros agos eigiawn, | |
| 28 | Pwy a eill mwy mewn pwll mawn? |
| Pysgodlyn i Wyn yw ef, | |
| Ab Nudd, wb ynn ei oddef! | |
| Pydew rhwng gwaun a cheunant, | |
| 32 | Plas yr ellyllon a'u plant. |
| Y dwfr o'm bodd nid yfwn, | |
| Eu braint a'u hennaint yw hwn. | |
| Llyn gwin egr, llanw gwineugoch, | |
| 36 | Lloches lle'r ymolches moch. |
| Llygrais achlân f'hosanau | |
| Cersi o Gaer mewn cors gau. | |
| Mordwy, lle nid rhadrwy rhwyd, | |
| 40 | Marwddwfr, ynddo ni'm urddwyd. |
| Ni wn paham, ond amarch, | |
| Ydd awn i'r pwll mawn â'm march. | |
| Oerfel i'r delff, ni orfu, | |
| 44 | A'i cloddies, ar fawrdes fu. |
| Hwyr ym ado, o do'i dir, | |
| 'Y mendith yn y mawndir. | |