Y Pwll Mawn
Gwae'r bardd, er iddo gael ei feio,
a fo'n llawn pryder ar gyfeiliorn.
Tywyll yw'r nos ar ros oer,
4 tywyll, o na chawn ffagl!
Mae'n dywyll draw, ni ddaw dim lles i mi,
mae'n dywyll (a minnau'n lloerig) yma.
Tywyll yw'r fro isod, daeth twyll i'm rhan,
8 tywyll yw twf y lleuad.
Gwae fi na wyr (un gwbl ddisglair ei hanian)
y ferch luniaidd mor dywyll ydyw,
a'm bod (mi piau ei moliant yn llwyr)
12 allan mewn tywyllwch dudew.
Mae'r parthau hyn heb lwybr,
fe wn yn iawn, hyd yn oed petai'n ddydd,
na wyddwn sut i gyrraedd
16 yr un tyddyn nac i fynd yma nac acw,
heb sôn am fynd (mwy gwrthun yw'r cysur,
nos ydyw) heb olau na sêr.
Nid doeth i fardd o fro arall,
20 ac nid hyfryd, rhag profi dichell neu dwyll,
yw imi fy nghael fy hun yn yr un fro â'm gelyn
a'm dal, mi a'm ceffyl llwyd-ddu.
Nid doethach ('roedd hi'n fwy gwyllt fyth draw acw)
24 fu inni'n cael ein hunain, wrth inni encilio,
mewn pwll mawn ar ôl cael parch bonheddig,
wedi boddi, mi a'm ceffyl.
Dyna enbydrwydd ar ros sy'n gefnfor bron,
28 pwy all wneud dim mwy mewn pwll mawn?
Pysgodlyn o eiddo Gwyn ap Nudd ydyw,
gwae ni ein bod yn ei oddef!
Pydew rhwng gwaun a cheunant,
32 mangre'r ellyllon a'u plant.
Nid yfwn y dwr o'm gwirfodd,
eu braint hwy a'u baddon yw hwn.
Llyn o win sur, llanw browngoch,
36 lloches lle bu moch yn ymolchi.
Difwynais yn llwyr fy sanau
brethyn garw o Gaerfyrddin mewn cors byllog.
Ymchwydd (lle nad oes gormodedd o roddion i rwyd)
40 o ferddwr, ni chefais fy anrhydeddu ynddo.
Ni wn pam, ond er mwyn cael fy amharchu,
yr awn gyda fy ngheffyl i'r pwll mawn.
Melltith ar y llabwst (ni fu'n drech na mi)
44 a'i cloddiodd, ar dywydd crasboeth y bu hynny.
Go brin y gadawaf, os llwyddaf i gyrraedd tir sych,
fy mendith yn y fawnog.